Mae Cynllun Benthyciad Adfer Llywodraeth y DU bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.
Mae’r cynllun hwn yn helpu busnesau bach a chanolig a effeithir gan y coronafeirws (COVID-19) i fenthyca rhwng £2,000 a £50,000.
Mae’r llywodraeth yn gwarantu 100% o’r benthyciad, ac ni fydd unrhyw ffioedd na llog yn cael eu codi am y 12 mis cyntaf. Bydd y benthyciadau ar gael am dymor o hyd at 6 mlynedd. Ni fydd angen gwneud unrhyw ad-daliadau am y 12 mis cyntaf. Bydd y llywodraeth yn cydweithio â benthycwyr i gytuno ar gyfradd llog isel am weddill cyfnod y benthyciad.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno drwy rwydwaith o fenthycwyr achrededig – gan gynnwys mwyafrif banciau’r stryd fawr.
Cymhwyster – Gallwch wneud cais am Fenthyciad Adfer os yw’ch busnes:
- wedi’i leoli yn y DU
- wedi’i effeithio’n negyddol gan y coronafeirwss
- ddim yn ‘gwmni mewn trafferthion’ ar 31 Rhagfyr 2019
Ni all y canlynol wneud cais am Fenthyciad Adfer:
- banciau, yswirwyr ac adyswirwyr (ond nid brocwyr yswiriant)
- cyrff sector cyhoeddus
- ysgolion cynradd ac uwchradd a ariennir gan y wladwriaeth
Os ydych chi eisoes yn hawlio cyllid
Ni allwch wneud cais os ydych chi eisoes yn hawlio dan y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CBILS). Fodd bynnag, os ydych chi eisoes wedi cael benthyciad o hyd at £50,000 dan CBILS, ac yr hoffech chi ei drosglwyddo i gynllun Benthyciad Adfer, gallwch drefnu hyn gyda’ch benthyciwr hyd at 4 Tachwedd
Sut i wneud cais am Fenthyciad Adfer
Mae rheolau llawn y cynllun a chanllawiau ar sut i wneud cais i’w gweld ar wefan British Business Bank, ynghyd â rhestr o’r benthycwyr achrededig.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19