Rydym yn gwybod pa mor anodd gall fod i gyn filwyr y lluoedd arfog i ganfod tai addas pan fyddant yn ôl mewn bywyd bob dydd.
Yn ôl yn 2015, gwnaethom lunio partneriaeth gyda Chymdeithas Tai Dewis Cyntaf i adeiladu fflatiau newydd i gyn filwyr.
Gwnaethom weithio gyda chyn filwyr digartref fel rhan o’r prosiect, gan roi profiad gwaith ar y safle iddynt wrth roi’r fflatiau newydd at ei gilydd, yn ogystal â’r cyfle i gael cartref pan fyddai gwaith wedi’i gwblhau – un gallant fod yn falch o ddweud eu bod wedi gweithio arno eu hunain.
Enw’r fflatiau yw Tŷ Ryan, ac fe’u cwblhawyd ym mis Mawrth ac maent ar agor ar gyfer ceisiadau nawr.
Mae llond llaw o fflatiau dwy ystafell wely ar ôl yn Nhŷ Ryan, ac felly byddem yn annog unrhyw un sydd â chefndir y lluoedd arfog ac sy’n chwilio am gartref newydd i gysylltu â ni.
“Gall fod yn anodd i gyn filwyr ail-addasu”
Dywedodd Y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai a Chefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam: “Rydym yn deall y gall fod yn anodd i gyn filwyr ail-addasu i fywyd bob dydd, a gallai rhai o’r problemau maen nhw’n eu profi wrth geisio setlo effeithio arnyn nhw yn hir ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r lluoedd arfog.
“Gwnaethom weithio ar Tŷ Ryan ochr yn ochr â Chymdeithas Tai Dewis Cyntaf gyda’r nod o dynnu rhywfaint o’r pwysau hwnnw i ffwrdd, a gobeithio ein bod wedi bod yn llwyddiannus gyda’r nod o greu tai o safon sy’n addas i anghenion cyn filwyr.”
Cyn filwyr yn cael eu hannog i gysylltu
Os ydych wedi bod yn y lluoedd arfog ac yn chwilio am dai; os ydych yn perthyn i rywun a fu yn y lluoedd arfog neu os oes gennych gysylltiadau â chyn filwr drwy briodas, gallai fod werth i chi gysylltu – yn enwedig gan mai dim ond ychydig o fflatiau sydd ar ôl.
Mae’r cynllun ar agor i’r rhai mewn cyflogaeth neu’r rhai di-waith; pobl sengl a theuluoedd ac mae’n codi rhenti fforddiadwy.
Gallwch gofrestru mewn 15 munud ar y mwyaf, a gwneud cais i Gyngor Wrecsam.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â First Choice ar 02920 713765 neu 02920 713752; neu anfonwch e-bost at wrexhamhousing@fcha.org.uk
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI