Oeddech chi’n gwybod bod Cyngor Wrecsam yn darparu cynnyrch mislif am ddim?
Gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru, maent ar gael mewn ysgolion ac mewn lleoliadau amrywiol ar draws y Fwrdeistref Sirol ac fe hoffem ni wybod sut yr ydych chi’n cael gafael ar y cynnyrch yma ac oes modd i ni wneud gwelliannau.
Mae yna ddau arolwg, un i ddisgyblion ysgol uwchradd ac un i bob preswylydd. Mae’r ddau yn hollol gyfrinachol.
Os ydych chi mewn ysgol uwchradd, hyd yn oed os nad ydych chi wedi cael eich mislif cyntaf eto, llenwch yr arolwg yma er mwyn i ni sicrhau eich bod hi’n hapus gyda’r cynnyrch sy’n cael eu darparu ac y gallwch chi gael mynediad yn hawdd atynt yn yr ysgol.
Fe fydd yr arolwg ysgol yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol:-
- beth yw argaeledd presennol cynnyrch glanweithiol mewn ysgolion?
- beth yw’ch barn chi am y cynnyrch sydd ar gael?
- ydych chi wedi gorfod methu gwersi/ gweithgareddau o gwbl oherwydd diffyg cynnyrch addas?
Os nad ydych chi wedi cael eich mislif cyntaf eto, fe allwch chi lenwi’r arolwg yma am argaeledd presennol a beth yr hoffech ei weld yn cael ei ddarparu yn y dyfodol.
Dyma eich cyfle chi i ddweud eich dweud ynglŷn â sut y gellir gwella darpariaeth mewn ysgolion.
I’r rhai sydd ddim yn yr ysgol, os ydych chi angen cael gafael ar gynnyrch mislif yn eich cymuned, fe hoffem ni glywed beth ydych chi’n ei feddwl am lle maent ar gael a pha welliannau y gellid eu gneud i’r gwasanaeth.