Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymweld â’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ymweld â’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig?
Y cyngor

Ymweld â’r canolfannau ailgylchu dros y Nadolig?

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 19, 2023 11:37 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Recycling
RHANNU

Fel y gwyddoch mae’n debyg, mae’r Nadolig yn amser prysur yn y canolfannau ailgylchu bob amser, felly mae’n syniad da i gynllunio eich ymweliad ymlaen llaw i’w gwneud mor hawdd a di-straen â phosibl.

Cynnwys
  • Didolwch eich ailgylchu cyn gadael
  • Dewch â dull adnabod gyda chi bob amser
  • Ceisiwch osgoi’r adegau prysuraf yn draddodiadol
  • Oriau Agor
  • Dim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol
  • Unrhyw beth i’w ailddefnyddio?

Rydym yn gwerthfawrogi y gall y Nadolig fod yn gyfnod sy’n achosi llawer o straen beth bynnag, a’ch bod yn debygol o fod eisiau mynd i mewn ac allan o’r cyfleusterau cyn gynted â phosibl. Dyma pam mae hi’n well paratoi a chael popeth sydd ei angen arnoch yn barod o flaen llaw.

Dyma rai pethau y gallwch ei wneud cyn cychwyn sydd wir yn ein helpu, ond sydd hefyd yn ei gwneud yn gyflymach a mwy esmwyth i chi hefyd…

Didolwch eich ailgylchu cyn gadael

Didolwch y deunyddiau gwahanol cyn i chi deithio i’ch canolfan ailgylchu lleol, er mwyn sicrhau eu bod yn barod i’w taflu’n syth i’r baeau cywir. Dyma un o’r prif ffyrdd y gallwch ein helpu.

Os na fyddwch chi’n didoli eich ailgylchu cyn i chi gyrraedd, byddwch ar y safle’n hirach nag sydd angen a bydd hyn yn arafu eich ymweliad.

Dewch â dull adnabod gyda chi bob amser

Dim ond preswylwyr Wrecsam gaiff ddefnyddio ein canolfannau ailgylchu, felly pan fyddwch chi’n cyrraedd y safleoedd, gofynnir i chi ddangos dull adnabod i ni fod yn sicr eich bod yn byw yn lleol.

Cofiwch ddod â rhywbeth gyda chi i ni ei wirio a’i fod wrth law er mwyn cyflymu’r broses.

Ceisiwch osgoi’r adegau prysuraf yn draddodiadol

Mae bob amser yn syniad da ystyried pryd ydych chi’n ymweld a cheisio osgoi’r adegau prysuraf pan fo’n bosibl.

Oriau Agor

Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam LL13 9UT
8am – 8pm

Y Lodge, Brymbo, Wrecsam LL11 5NR
9am – 4pm

Banc Wynnstay, Plas Madoc, Wrecsam LL14 3ES
9am – 4pm

Noder y bydd y tri chanolfan ail-gychu ar gau ar ddiwrnod Nadolig.

Dim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol

Os byddwch chi’n dod ag unrhyw fagiau du i’r canolfannau ailgylchu, sicrhewch fod unrhyw boteli plastig, caniau ac ati sydd wedi cael eu rhoi ynddynt mewn camgymeriad yn cael eu tynnu allan ac yn cael eu rhoi gyda’ch ailgylchu ymyl palmant, neu mae modd iddynt gael eu hailgylchu yn y banciau ailgylchu yn y ganolfan ailgylchu.

Unrhyw beth i’w ailddefnyddio?

Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu; siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn eich cyfeirio i’r man cywir.

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:canolfan ailgylchurecycling centres
Rhannu
Erthygl flaenorol Reuse shop Christmas Recycling Ydych chi’n chwilio am anrheg Nadolig arbennig sy’n fforddiadwy ac mewn cyflwr gwych?
Erthygl nesaf Period products Cynnyrch mislif am ddim – helpwch ni i wella’r gwasanaeth yma

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English