Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyrtiau tennis y Parciau yn agor yn swyddogol yn dilyn gwaith ailwampio 
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyrtiau tennis y Parciau yn agor yn swyddogol yn dilyn gwaith ailwampio 
Y cyngorPobl a lle

Cyrtiau tennis y Parciau yn agor yn swyddogol yn dilyn gwaith ailwampio 

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 6, 2023 12:19 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
RHANNU

Mae cyrtiau tennis yn Wrecsam wedi ailagor yn swyddogol yn dilyn gwaith ailwampio gwerth £14,756.66. Ddydd Llun, 27 Tachwedd, cynhaliwyd seremoni yng nghyrtiau tennis y Parciau ar eu newydd wedd lle’r oedd chynrychiolwyr o Gyngor Wrecsam, Llywodraeth y DU a’r Gymdeithas Tennis Lawnt yn bresennol. 

Drwy’r Prosiect Tennis mewn Parciau, mae’r LTA yn darparu’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn cyfleusterau parciau tennis ar draws Prydain, sydd wedi trawsnewid y tri cwrt tennis yn y Parciau gan roi hwb sylweddol i gyfleusterau chwaraeon. Mae 1,500 o gyrtiau wedi cael eu trawsnewid fel rhan o fuddsoddiad £30 miliwn gan Lywodraeth y DU a’r LTA Tennis Foundation, gan adfer miloedd o gyrtiau tennis mewn cyflwr gwael ac anaddas er lles cymunedau ar draws y wlad a darparu cyfleoedd hanfodol i blant ac oedolion gadw’n heini.  

Mae tri o gyrtiau tennis y Parciau wedi cael eu hail-beintio, a system giatiau newydd wedi cael ei gosod, a fydd yn ei gwneud yn haws i aelodau’r cyhoedd ddod o hyd i gyrtiau, archebu llefydd  a chwarae tennis. 

Ynghyd â’r buddsoddiad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio gyda’r LTA i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau ar draws safleoedd y parc. Bydd hyn yn cynnwys darparu sesiynau tennis yn rhad ac am ddim mewn parciau a drefnir yn wythnosol i bawb o bob oed, lefel chwarae a phrofiad lle darparir offer, gan olygu na fydd yn rhaid i bobl gael rhywun i chwarae â nhw neu eu raced eu hunain.  Bydd Cynghreiriau Tennis Lleol hefyd yn darparu cyfleoedd cyfeillgar a chymdeithasol i gadw’n heini drwy gystadlaethau lleol. Cadwch lygad allan ar ein cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn.

Mae cyrtiau tennis mewn parciau yn hanfodol o ran darparu cyfleoedd i blant ac oedolion gadw’n heini, ac yn darparu manteision corfforol ac iechyd meddwl a lles sylweddol i’r rhai sy’n cymryd rhan.  Mae cyfleusterau hygyrch mewn parciau yn arbennig o bwysig o ran rhoi cyfleoedd i’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a merched a genethod gymryd rhan yn y gamp.   

Bydd pob un o’r cyrtiau ar gael i’w harchebu ar wefan yr LTA. Mae systemau archebu newydd a thechnoleg mynediad giatiau’n golygu ei bod bellach yn haws i fynd ar y cyrtiau drwy archebu ymlaen llaw i sicrhau argaeledd.  

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae Wrecsam yn adnabyddus am bêl-droed, ond mae gennym un o’r cyfleusterau tennis dan do ac awyr agored mwyaf yn y DU hefyd (Canolfan Tennis Wrecsam), sy’n cynnal digwyddiadau rhyngwladol yn aml.  

“Rydym yn gobeithio y bydd adnewyddu cyfleuster y Parciau yn caniatáu i fwy o aelodau’r gymuned gael mynediad at gyfleusterau tennis o ansawdd uchel a chymryd rhan yn y gêm.” 

Dywedodd Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu yn yr LTA: 

“Rydym yn falch o gael gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i wella eu cyfleusterau tennis mewn parciau a darparu mwy o gyfleoedd i unrhyw un godi raced a chadw’n heini. Mae’r buddsoddiad yn rhan o Brosiect Tennis mewn Parciau Llywodraeth y DU a’r LTA, a bydd yn golygu y bydd cyrtiau ar gael i bobl eu defnyddio am flynyddoedd i ddod. Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i sicrhau bod gan y gymuned leol ystod o gyfleoedd hygyrch i fynd ar gyrtiau, ac agor ein camp i lawer mwy o bobl.” 

Rhannu
Erthygl flaenorol Pupils from the Rofft School at Digital Heroes Disgyblion Wrecsam yn Arwyr Digidol
Erthygl nesaf Victorian Market Marchnad Fictoraidd wedi’i lleihau oherwydd gwyntoedd cryf a ragwelir

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English