Gwahoddir awduron darpar a chefnogwyr dirgelwch llofruddiaeth i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Ysgrifennu Sgript ‘Pwy Laddodd’ Gŵyl Geiriau Wrecsam 2023.
Mae’r Gystadleuaeth yn agored i unrhyw awdur sydd â sgript wreiddiol sy’n cyd-fynd â’r briff ac sydd heb ei chyhoeddi o’r blaen. Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg o 1 Awst – 29 Medi 2023 a bydd yr awdur buddugol yn derbyn gwobr ariannol o £100.
Bydd y sgript hefyd yn cael ei pherfformio gan actorion amatur lleol yn noson ‘Pwy Laddodd?’ y flwyddyn nesaf yn ystod gŵyl lenyddol Gŵyl Geiriau Wrecsam ym mis Ebrill 2024.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan yr awdur poblogaidd Simon McCleave sy’n noddwr i Ŵyl Geiriau Wrecsam.
Mae manylion y gystadleuaeth a’r telerau ac amodau ar gael ar wefan Gŵyl Geiriau Wrecsam:
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Chwilio ar draws y byd am roddwr mêr esgyrn yn dod o hyd i rywun sydd yn cydweddu bron yn berffaith, ac sy’n byw dim ond 15 milltir i ffwrdd o gartref y claf.