Mae gwaith grŵp celf Ffrindiau Dementia Wrecsam wedi ei ddadorchuddio yn Eglwys Santes Margaret.
Gofynnodd yr eglwys i’r grŵp greu llun i ddisodli’r un sydd uwchben drws mynediad y ganolfan gymunedol ac maent wedi cydweithio i greu dyluniad o’r enw Coeden Fywyd, rhywbeth a oedd yn eu barn nhw’n briodol ar gyfer y ddau sefydliad.
Mae holl aelodau’r grŵp celf un ai yn byw gyda dementia neu’n gofalu am rywun sydd â dementia, ac mae pawb – gan gynnwys y gwirfoddolwyr – wedi cyfrannu mewn rhyw ffordd tuag at y llun.
Cafodd y llun ei ddadorchuddio’n swyddogol ddydd Mercher Mehefin 12 gan Faer Wrecsam.
Dewiswyd y llun o’r Goeden Fywyd i ddangos sut rydym ni i gyd wedi ein cysylltu â bywyd, a phan fo bywyd yn fregus mae cefnogaeth unigolion eraill i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan ddementia yn golygu eu bod yn gallu byw bywyd bodlon. Roedd creu’r llun hwn yn dangos eu bod yn gallu mwynhau crefft y bydd cynifer ohonom ni yn ei edmygu.