Efallai eich bod wedi gweld llawer o sylw yn y wasg am newidiadau i’r nifer o bobl a fydd yn derbyn y taliad tanwydd gaeaf.
Fis diwethaf, cyhoeddodd y Canghellor mai dim pobl hŷn oedd yn derbyn mathau penodol o fudd-daliadau prawf modd a fyddai’n derbyn taliadau tanwydd gaeaf.
Bydd pawb sydd ar gredyd pensiwn yn parhau i dderbyn y taliadau blynyddol. Serch hynny, mae lle i gredu bod rhai pobl yn gymwys i gael y credyd pensiwn, ond nad ydynt yn ei hawlio.
Felly os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, fe allech chi fod â hawl i gredyd pensiwn, a fydd yn golygu y gallwch chi barhau i hawlio’r taliad tanwydd gaeaf. I ganfod a ydych chi’n gymwys, tarwch olwg ar dudalen pensiwn credyd GOV.UK.
Os nad ydych chi’n gymwys am bensiwn credyd ond yn dal i gael trafferth, gallwch hefyd gael cyngor cyfrinachol a rhad ac am ddim am arian y gallech chi fod â hawl iddo, drwy ffonio llinell gymorth Advicelink Cymru ar 0808 250 5700.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.