Mae llawer o bobl yn mwynhau diod alcoholaidd ar noson allan ond ychydig iawn sy’n gwybod beth yw gwir beryglon a chanlyniadau yfed gormod.
Beth ydym ni’n ei wneud i roi stop ar yfed dan oed?
Mae profion prynu alcohol yn cael eu defnyddio’n rheolaidd i brofi eiddo i weld os ydyn nhw’n cadw at y gyfraith ac yn gwrthod gwerthu alcohol i bobl dan 18 oed.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Her 25
Mae trwyddedai hefyd yn cael eu cefnogi gyda chyngor a gwybodaeth i’w galluogi nhw i ddiogelu eu hunain rhag gwerthu alcohol i bobl dan 18 oed. Mae hyn yn cynnwys deunydd hyfforddi ar gyfer staff, arwyddion a sut i ddefnyddio ‘Her 25′.
Mae Her 25 yn gynllun lle caiff staff eu hyfforddi i ofyn i unrhyw un sy’n edrych fel pe baent yn iau na 25 i brofi eu bod nhw mewn gwirionedd yn 18 oed neu’n hŷn. Gellir erlyn neu adolygu trwydded alcohol eiddo sydd ddim yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifri ac yn gwerthu alcohol i bobl dan 18 oed. Gallai hyn olygu bod eu trwydded i werthu alcohol yn cael ei diddymu ac na fyddant felly yn cael gwerthu unrhyw alcohol o gwbl.
ID Ffug
Rhywbeth arall sy’n cael ei arwain gan y Tîm Safonau Masnach yw’r fenter i ostwng nifer y dogfennau adnabod ffug a ddefnyddir gan bobl ifanc dan 18 oed i gael mynediad i eiddo ar noson allan. Nid yw’n anarferol i bobl dan 18 oed fenthyg pasbort neu drwydded yrru gan ffrind neu frawd neu chwaer dros 18 i’w dangos i staff drysau. Mae Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru wedi gweithio gydag eiddo fel bod staff drysau yn awr yn cadw dogfennau adnabod os ydynt yn credu nad y sawl sy’n eu dangos sy’n berchen arnynt. Caiff dogfennau wedi’u cadw wedyn eu trosglwyddo i Safonau Masnach a fydd yn cysylltu â’r deiliad cyfreithlon i drefnu cyfarfod i drafod eu gweithredoedd a’r effaith y gallai’r hyn a wnaethon nhw – sydd, mewn gwirionedd, yn dwyll hunaniaeth – fod wedi ei gael. Ers lansio’r fenter mae achosion o ddefnyddio ID ffug wedi gostwng yn sylweddol.
1 o bob 20 marwolaeth yn gysylltiedig ag alcohol
Yng Nghymru, mae oddeutu 1,500 o farwolaethau cysylltiedig ag yfed alcohol bob blwyddyn. Mae hyn yn 1 o bod 20 marwolaeth www.drinkaware.co.uk/research/data/consumption-uk/.
Mae alcohol yn aml yn ffactor mewn derbyniadau i’r ysbyty ac yn aml iawn hefyd yn ffactor mewn troseddau treisgar, gan gynnwys trais domestig.
Mae yfed ymysg plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn bryder penodol gydag 1 o bob 6 bachgen ac 1 o bob 7 merch rhwng 11—16 yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos. Mae tua 400 o bobl ifanc o dan 18 oed yn gorfod mynd i’r ysbyty yn dioddef o gyflyrau’n ymwneud
yn benodol ag alcohol bob blwyddyn, er bod y gyfradd wedi bod yn gostwng ers dros y blynyddoedd diwethaf.
http://www.publichealthwalesobservatory.wales.nhs.uk/alcohol-overview
Mae diogelu plant rhag niwed felly yn flaenoriaeth i Wasanaeth Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor. Mae Safonau Masnach yn gweithio’n agos gyda’i bartneriaid, yn cynnwys y Gwasanaeth Trwyddedu a Heddlu Gogledd Cymru i gyfyngu mynediad pobl dan 18 oed at alcohol.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN