Erthygl Gwadd – Phrifysgol Caer
Datgelodd y tîm o Brifysgol Caer, Heneb: Ymddiriedolaeth Archeoleg Cymru (rhanbarth Clwyd-Powys) a’r Cynllun Hen Bethau, nodweddion strwythurol a deunyddiau pwysig o’r oes Rufeinig, ac o’r hyn a gredir i ddechrau, y Canol Oesoedd cynnar, wrth gloddio ar safle ger gwaith teils a chrochenwaith Rhufeinig Holt, yn Wrecsam.
Roedd y gloddfa archeolegol yn gynharach yr haf hwn, yn rhan o brosiect ehangach a ariannwyd gan Brifysgol Caer yn archwilio i Wrecsam Rufeinig, a ddechreuodd drwy ddarganfod gweddillion y fila Rufeinig gyntaf erioed yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymddengys bod y tîm, oedd yn cynnwys myfyrwyr o Brifysgol Caer a gwirfoddolwyr lleol, wedi darganfod strwythur tŷ hir o’r Canol Oesoedd cynnar – adeilad hir, cul ble byddai cymuned yn byw – a llwybr, strwythurau, deunyddiau adeiladu, serameg, yn cynnwys teilsen llengol wedi’i stampio a darn o dlws, sy’n datgelu bod anheddiad Rhufeinig ar y safle hwn hefyd.
Arweiniwyd y prosiect gan Chris Matthews o Heneb, Dr Caroline Pudney o Brifysgol Caer a Steve Grenter, cyn archeolegydd y sir a Rheolwr y Gwasanaethau Treftadaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gyda chefnogaeth gan Dr Susie White, Swyddog Cyswllt Canfyddiadau ar gyfer y Cynllun Hen Bethau (PAS Cymru).
Mae rhaglen ddogfen fer ar y cloddio a’r darganfyddiadau i fod i gael ei rhyddhau yn hwyrach eleni.
Meddai Dr Pudney, Uwch Ddarlithydd Archeoleg ym Mhrifysgol Caer: “Roeddem yn obeithiol iawn y byddem yn darganfod tystiolaeth o fywyd Rhufeinig oherwydd darganfyddiadau blaenorol ac arolygon geoffisegol yn yr ardal, heb sôn am bresenoldeb y gwaith teils llengol ychydig o gaeau i ffwrdd. Ond nid oeddem yn disgwyl darganfod yr hyn a gredir ei fod yn dŷ hir o’r Canol Oesoedd cynnar.
“Mae darganfod anheddiad Rhufeinig yn bwysig iawn wrth adeiladu darlun mwy o Wrecsam Rufeinig ac er bod tai hir o’r Canol Oesoedd cynnar wedi cael eu darganfod mewn rhannau eraill o Gymru, mae’n beth hynod o brin dod o hyd i dystiolaeth o adeilad o’r fath yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.”
Ychwanegodd Mr Matthews, Archeolegydd y Prosiect a Geoffisegydd gyda Heneb: “Er nad ydym wedi dechrau ar yr ymchwiliadau ar ôl cloddio, pan fydd yr holl ddarganfyddiadau’n cael eu dadansoddi, mae’r samplau a broseswyd a’r dyddio gwyddonol a gafwyd yn ddarganfyddiad newydd cyffrous iawn yn y rhanbarth, a allai ein helpu i lenwi’r bylchau presennol yn ein dealltwriaeth am adeiladu a’r defnydd o dai hir o’r Canol Oesoedd.”
Mae’r gloddfa’n dilyn treialu gwaith cloddio ffosydd gan Gymdeithas Hanes Leol Holt rhwng 2013 a 2017, pan ddatgelwyd swm sylweddol o serameg Rhufeinig a gwrthrychau eraill. Ar ôl archwilio’r arteffactau hyn, y mae rhai ohonynt yn Amgueddfa Wrecsam, cynhaliodd Heneb a Phrifysgol Caer arolygon geoffisegol, a ddatgelodd botensial archeolegol y safle ymhellach.
Er gwaetha’r amodau geoffisegol anffafriol, datgelodd yr arolygon, oedd yn cynnwys magnetomedreg cydraniad uchel, amlinelliad clir o anheddiad ar ffurf grid a system ffyrdd, yn ogystal â strwythurau petryal penodol y tu allan i ffiniau’r anheddiad.
Mae rhagor o wybodaeth am Hanes ac Archeoleg ym Mhrifysgol Caer.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch