Mae gan ganolfan adnoddau cymunedol Plas Pentwyn bopeth dan haul!
Yn ogystal ag awyrgylch cynnes a chartrefol, sy’n cael ei arddangos yn y caffi gwych yng nghanol yr adeilad, mae ystod eang o gyfleusterau i’r cyhoedd eu defnyddio.
Mae’r ganolfan yn gartref i Llyfrgell Coedpoeth, mae nifer o ystafelloedd cyfarfod, ac mae ystafelloedd cyfrifiaduron hefyd. Mae digwyddiadau a dosbarthiadau’n cael eu cynnal yn rheolaidd, sy’n ychwanegu at y teimlad braf sydd yno.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Bydd Plas Pentwyn yn eich galluogi i gynnal eich digwyddiad eich hun hefyd… mae neuadd fawr ar gael i’w llogi, sydd ar gael ar gyfer digwyddiadau, cynadleddau a phartïon.
Mae unedau busnes ar y safle hefyd, yn cynnwys meithrinfa Happy Days. Mae’r caffi yn gwerthu bwyd cartref blasus a diodydd o bob math. A heb anghofio eu gardd gymunedol boblogaidd.
Dywedodd Stacey Deere, Rheolwr y Ganolfan: “Mae Canolfan Adnoddau Plas Pentwyn yma i ddarparu cyfleusterau i’r gymuned leol. Rydym yn anelu at gynnal dosbarthiadau a digwyddiadau perthnasol, yn ogystal â chynnig gofodau y gellir eu llogi.
“Mae ein gardd gymunedol, sy’n cael ei chynnal a’i chadw, a’i rhedeg gan wirfoddolwyr lleol wedi derbyn gwobr gymunedol y faner werdd. Mae’r ganolfan wir yn adnodd cymunedol ar gyfer Coedpoeth.”
Ni allem fod wedi dweud hyn yn well ein hunain…
Lleolir Plas Pentwyn ar Ffordd y Castell ac fe’i hariennir gan Raglen Dinesig II Gorllewin Wrecsam drwy Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Adfywio Lleol Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Am ragor o wybodaeth am Ganolfan Adnoddau Plas Pentwyn ewch i’w tudalen Facebook.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN