Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Datblygiad newydd yn Wrecsam i greu cartrefi byw â chefnogaeth ‘arbenigol’ i rieni sengl a’u plant
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Datblygiad newydd yn Wrecsam i greu cartrefi byw â chefnogaeth ‘arbenigol’ i rieni sengl a’u plant
Y cyngor

Datblygiad newydd yn Wrecsam i greu cartrefi byw â chefnogaeth ‘arbenigol’ i rieni sengl a’u plant

Diweddarwyd diwethaf: 2022/10/14 at 5:10 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Datblygiad newydd yn Wrecsam i greu cartrefi byw â chefnogaeth ‘arbenigol’ i rieni sengl a’u plant
RHANNU

Yn fuan bydd Cymdeithas Tai ClwydAlyn mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r datblygwyr Harley and Clarke yn croesawu’r tenantiaid cyntaf i gynllun byw â chefnogaeth newydd yn Wrecsam fydd yn rhoi hafan ddiogel i rieni sengl a’u plant.

Daw hyn yn dilyn adolygiad diweddar o fyw â chefnogaeth a ddynododd yr angen am lety penodol yn yr ardal.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gofal a Chefnogaeth Gweithredol ClwydAlyn, Edward Hughes:

“Crëwyd gyda’r gobaith o roi diogelwch, lloches ac arweiniad i ferched beichiog, neu rieni gyda babanod ifanc sydd heb fawr o gefnogaeth neu ddim; bydd y fenter ar y cyd yma yn cynnig hafan ddiogel iddynt i roi’r gobaith y mae arnynt ei angen i godi’n ôl ar eu traed.

“Nid yw llawer o’r rhieni yma yn ddiarth i gamdriniaeth, esgeulustod a thrawma a bydd y cynllun newydd yma yn fan lle byddant yn cael eu croesawu gyda breichiau agored i ddiogelwch.

“Bydd y cynllun, sydd yn y camau datblygu olaf, yn rhoi’r cariad y mae ar breswylwyr ei angen i helpu iddynt ffynnu, gan roi cefnogaeth trwy gydol beichiogrwydd, genedigaeth a thu hwnt gyda’u plant mewn man diogel a fydd gobeithio yn eu helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen.”

Datblygiad newydd yn Wrecsam i greu cartrefi byw â chefnogaeth ‘arbenigol’ i rieni sengl a’u plant
ClwydAlyn

Bydd y llety’n cynnwys pedair uned gyda lolfeydd cymunedol i’w rhannu fel lolfa i’r preswylwyr, cegin, ystafell fwyta a gardd, gyda staff 24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn.

Bydd gan bob preswyliwr swyddog cefnogi penodol, gyda’r gefnogaeth yn cael ei theilwra i fodloni anghenion a dyheadau unigol ein preswylwyr. Yn ystod eu harhosiad byddwn yn rhoi’r sgiliau iddynt i’w galluogi i fyw’n annibynnol yn y gymuned boed hynny’n ddysgu sut i reoli cartref, gwella eu hiechyd a’u llesiant, neu gael mynediad at gyflogaeth neu hyfforddiant.

Bydd y gweithwyr cefnogi hefyd yn gweithio ochr yn ochr â’n preswylwyr i’w helpu i baratoi at fod yn fam yn ystod eu beichiogrwydd a’u cynorthwyo i lunio sylfaen gref i fynd ymlaen a mwynhau oes fydd yn rhoi boddhad fel rhiant.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:

“Dylai pob rhiant a babi gael rhywle diogel, lle gall gael y gefnogaeth a’r caredigrwydd y mae arnynt eu hangen i lunio dyfodol cadarnhaol.

“Fel cyngor rydym yn ymroddedig i ddiogelu rhieni bregus a’u plant, a bydd y cyfleuster tai â chefnogaeth hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymaint o fywydau.
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda ClwydAlyn ar y prosiect hwn, ac mae’n enghraifft wych o’r ffordd y gall sefydliadau weithio gyda’i gilydd i gefnogi’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau.”

Ychwanegodd Edward Hughes:

“Ni ddylai unrhyw riant sengl gael ei adael ar ben ei hun neu yn ofnus, a bydd y cartrefi newydd yma yn sicrhau y byddant yn cael eu rhoi mewn amgylchedd diogel a chefnogol a fydd yn eu helpu i ail-adeiladu eu bywydau a’u galluogi i ddod yn rhieni cryf, annibynnol sy’n canolbwyntio ar eu cyfrifoldebau.”

Ydych chi wedi derbyn llythyr/ffurflen ynglŷn â’r gofrestr etholiadol?

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.householdresponse.com/wrexham “]PARATOWCH I BLEIDLEISIO[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae ein calendrau casgliadau biniau ac ailgylchu newydd a gwell bellach ar gael Mae ein calendrau casgliadau biniau ac ailgylchu newydd a gwell bellach ar gael
Erthygl nesaf Wythnos Ailgylchu 2022 - yr atebion i’ch holl gwestiynau am ailgylchu Wythnos Ailgylchu 2022 – yr atebion i’ch holl gwestiynau am ailgylchu

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau Mawrth 3, 2026
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor Mawrth 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English