Mae Another World Festival yn cael ei hysbysebu ar y rhyngrwyd fel gŵyl gerddoriaeth aml-ddiwrnod sy’n cael ei chynnal yn Wrecsam o 1 tan 5 Awst 2024.
Mae’r tocynnau wedi bod ar werth ers mis Awst y llynedd ar lwyfan trydydd parti. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth fusnes am drefnydd y digwyddiad, sef WCE Ltd (cwmni Prydeinig a gofrestrwyd fis Mawrth 2023). O edrych ar y disgrifiad o’r digwyddiad ar y wefan, bydd angen trwydded gan Gyngor Wrecsam arno.
Nid yw’r digwyddiad wedi cael trwydded ac nid oes cais wedi dod i law hyd yma. Hefyd, byddai angen Grŵp Diogelwch Ymgynghorol Amlasiantaeth i adolygu pob agwedd ar ddiogelwch y digwyddiad.
Hyd yma, nid yw trefnwyr y digwyddiad wedi gwneud unrhyw ymgais i gysylltu â’r Grŵp Diogelwch Ymgynghorol i drafod a chytuno ar yr agweddau diogelwch.
Nid yw Cyngor Wrecsam yn gallu cyflwyno’r drwydded angenrheidiol heb gydweithrediad WCE Ltd. Heb drwydded, ni ellir cynnal y digwyddiad yn gyfreithlon.
Roedd Gŵyl Gerddoriaeth Another World oedd yn cael ei hyrwyddo at fis Awst eleni, cyn heddiw, yn cael ei hysbysebu gyda “3 huge stages”, “80+ artists” ac “over 40,000 guests”.
Mae Swyddogion Cyngor Wrecsam wedi ceisio cyfarfod gyda threfnwyr y digwyddiad dros y misoedd diwethaf er mwyn darparu cyngor a chefnogaeth a thrafod unrhyw gamau rheoleiddiol oedd angen eu cymryd i gynnal y digwyddiad yn ddiogel.
Mae trefnydd y digwyddiad wedi’i annog yn ysgrifenedig i gyflwyno cais am drwydded eiddo ar gyfer y digwyddiad mewn da bryd.
Mae proses Rhybudd Digwyddiad Dros Dro’n un gyffredin ar gyfer digwyddiadau bach fel gŵyl bentref neu i gynnal derbyniad priodas mewn canolfan gymunedol, er enghraifft, ac uchafswm y niferoedd yw 499 o bobl, sydd i gynnwys pob un sy’n dod i’r ŵyl, staff yr ŵyl ac artistiaid yr ŵyl.
Byddem yn annog trefnwyr unrhyw ddigwyddiad i gyflwyno cais am drwydded neu rybudd digwyddiad dros dro mewn da bryd gan fod angen ymgynghori yn rhan o’r ddwy broses, a phe bai unrhyw wrthwynebiadau’n dod i law, byddai’n arwain at wrandawiad gan bwyllgor trwyddedu’r Cyngor.
Yn y gwrandawiad, bydd y pwyllgor trwyddedu un ai’n cymeradwyo’r cais am drwydded neu’r rhybudd, yn ychwanegu amodau ato neu’n ei wrthod.
Mae posib’ apelio yn rhan o’r ddwy broses, i Lys Ynadon o fewn 21 diwrnod i’r penderfyniad. Mae’n drosedd gwneud datganiad anwir mewn cais.
Er gofyn iddynt wneud hynny ar fwy nag un achlysur, nid yw WCE Ltd wedi cyfarfod â Swyddogion Cyngor Wrecsam na’r Grŵp Diogelwch Ymgynghorol ar unrhyw adeg i drafod cynnal y digwyddiad hwn.