Datgelwyd y chwe hoff stori am Wrecsam – yn ôl eich pleidleisiau chi!
Yn dilyn pleidlais gyhoeddus, lle pleidleisiodd 200 o bobl yn ôl rhestr fer o 25 stori ryfedd a rhyfeddol am Wrecsam, rydym yn falch iawn o ddatgelu pa straeon a ddewiswyd fel y chwech uchaf.
Bydd y chwe stori yn cael eu gwneud yn ddarnau o waith celf am Wrecsam gan chwe gwahanol artist, a fydd ar gael i’w prynu ar Ddydd Llun Pawb – diwrnod agoriadol Tŷ Pawb – ar 2 Ebrill.
Mae tîm Oriel Wrecsam/Tŷ Pawb wedi ymgymryd â misoedd o ymgynghori er mwyn darganfod beth mae’r cyhoedd yn credu i fod y straeon mwyaf diddorol i gynrychioli Wrecsam. Roedd y 25 stori yn amrywio o fod yn bartïon stryd gwyllt, enillydd Miss World, i gelc anferth o friciau Lego a gladdwyd o dan y dref.
Yr un mwyaf poblogaidd, gyda 23% o’r pleidleisiau yw treftadaeth Cymraeg ein tref, a sbardunodd ddychymyg y cyhoedd. Fel dywedodd Hannah Wright, a rannodd ei stori gyda ni, “Mae’r Gymraeg yn berthnasol, yn draddodiadol, yn gyfredol ac yn ddiwylliannol.”
Mae’r rhestr gyflawn o’r chwe stori fuddugol, gan gasglu 89% o’r holl bleidleisiau fel y ganlyn:
- Stori 20 (23% o’r pleidleisiau) – ‘Yr iaith Gymraeg’
- Stori 7 (13%) – ‘Byd bach’ – Dim ots lle ewch chi yn y byd, mae’n ymddangos fel y byddwch o hyd yn cyfarfod rhywun o Wrecsam!
- Stori 22 (13%) – ‘Bywyd ymroddedig i eraill: Marjorie Dykins’
- Stori 25 (11%) – ‘Croeso i Wrecsam: Croesawu’r Byd’
- Stori 1 (10%) – ‘Clwb Pêl-droed Wrecsam: Clwb i achub bywydau!’
- Stori 24 (9%) – ‘Y dref sy’n gwneud!’
Byddwn nawr yn dyrannu artist yr un, a ddatgelon ni’r mis ddiwethaf, i’r chwe stori – Sophia Leadill, John Merrill, Marcus Orlandi, Nicholas Pankhurst, Martha Todd a Bedwyr Williams.
Bydd yr artistiaid yn cynhyrchu prototeip i gofio, yn seiliedig ar y stori a ddyrannwyd iddynt ar gyfer agoriad Tŷ Pawb a’r parêd Dydd Llun Pawb, ddydd Llun 2 Ebrill, 2018.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Dw i’n falch iawn o weld bod pobl Wrecsam wedi pleidleisio ar y straeon hyn a ddewiswyd i’w cynrychioli fel rhan o Ddydd Llun Pawb – ac mae’n arbennig o ddymunol gweld bod yr un mwyaf poblogaidd yn seiliedig ar dreftadaeth Cymraeg y dref.”
“Dw i’n sicr nad ydw i ar fy mhen fy hun pan ddwedaf fy mod i’n edrych ymlaen at weld beth fydd ein hartistiaid yn ei gynhyrchu ac yn ei ddatgelu ar Ddydd Llun Pawb.”