Yn ddiweddar cynhaliwyd dathliad ysgolion iach a bu i ysgolion ledled Wrecsam gael eu cydnabod am y gwaith a wneir i ddatblygu iechyd a lles plant a phobl ifanc.
Roedd dros 155 o gynrychiolwyr o 33 ysgol yn bresennol i dderbyn eu gwobrau a gafodd eu cyflwyno gan y Maer, y Cynghorydd Rob Walsh.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Yn ystod y dathliad, bu i Gwen Thomas o Sustrans siarad am eu rhaglen Teithio Llesol ac eglurodd Ysgol Gynradd Victoria sut maent wedi gweithio gyda Sustrans i wella eu siwrnai i’r ysgol. Cyflwynodd Catrin Davies o Eco Ysgolion wobrau i ysgolion am eu gwaith ar y Rhaglen Eco Ysgolion a siaradodd Ysgol Gatholig Santes Fair am eu siwrnai i ddod yn Ysgol Ddi Blastig.
Roedd amrywiol fusnesau ac elusennau gan gynnwys Ymddiriedolaeth y Cwn, Wrecsam Actif a’r NSPCC hefyd yn bresennol i roi gwybodaeth am y gefnogaeth y gall ysgolion ei chael.
Caewyd y bore gan Simon Airey o Corner Exotics a siaradodd am ofnau a ffobiâu a’r amgylcheddau y daw anifeiliaid egsotig ohonynt. Bu i hyn helpu rhai disgyblion ac athrawon i drechu eu hofnau trwy ddal nadroedd a phryfaid cop.
Mae’r Cynllun Ysgolion Iach yn rhaglen gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi ysgolion i weithredu’r camau sy’n gwella iechyd a lles y gymuned ysgol gyfan. Mae pob ysgol yn Wrecsam yn rhan o’r cynllun ac mae 11 ysgol wedi ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol.
Mae’r Cynllun Ysgolion Iach yn parhau i helpu i gefnogi ysgolion i wella iechyd a lles plant yn y gobaith y bydd y manteision yn mynd ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac i mewn i’w bywydau yn y dyfodol.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN