Mae enw da Wrecsam fel dinas greadigol sy’n tyfu wedi cael ei gydnabod unwaith eto, gyda Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam yn derbyn canmoliaeth yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam yn ddiweddar, gan ddathlu’r ffordd y mae’r prosiect wedi dod â lliw, celfyddyd a straeon lleol newydd i galon canol y ddinas.
Rhoddwyd canmoliaeth i’r llwybr, sydd wedi cyflwyno cyfres o weithiau celf a murluniau beiddgar ar draws canol y ddinas, am y ffordd y mae’n hyrwyddo hunaniaeth ddiwylliannol Wrecsam – o’i farchnadoedd hanesyddol a’i threftadaeth ddiwydiannol i bêl-droed, cerddoriaeth, y celfyddydau, pwysigrwydd chwarae, y Gymraeg ac amrywiaeth ddiwylliannol esblygol y ddinas.
Wedi’i gydlynu gan yr artist o Wrecsam, Liam Stokes-Massey, gyda chefnogaeth Wrecsam2029, ac wedi’i ariannu drwy gyfran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae’r prosiect wedi dod â phobl greadigol, busnesau a sefydliadau lleol at ei gilydd i ail-ddychmygu strydoedd a mannau cyfarwydd. Mae Cam 2 y llwybr ar y gweill ar hyn o bryd, gyda mwy o weithiau celf a lleoliadau yn cael eu datblygu.



Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae’r Llwybr Celf Gyhoeddus wedi helpu pobl i weld Wrecsam mewn goleuni newydd. Mae’r gweithiau celf hyn nid yn unig yn goleuo waliau: maen nhw’n adrodd ein straeon – am ymdrech, angerdd, creadigrwydd a chymuned.”
“Yr hyn rydw i’n ei werthfawrogi am y prosiect hwn yw sut mae’n rhoi artistiaid lleol a lleisiau lleol ar flaen y gad. Mae’r ganmoliaeth gan Gymdeithas Ddinesig Wrecsam yn gydnabyddiaeth o’r gwaith sydd wedi mynd i bob darn – o ddewis y lleoliadau cywir i adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma.”
“Mae’r llwybr yn ymwneud â bod yn falch o le. Mae’n dangos sut y gall celf wneud teithiau bob dydd yn fwy pleserus, sbarduno sgyrsiau ar y stryd a rhoi ymdeimlad cryfach o gysylltiad i drigolion ac ymwelwyr â’n dinas.”



Mae’r Llwybr Celf Gyhoeddus yn rhan allweddol o uchelgais Wrecsam i sicrhau teitl Dinas Diwylliant y DU 2029, gan arddangos cryfder ac amrywiaeth sîn greadigol y ddinas a’r partneriaethau sy’n ei gyrru ymlaen.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Cais Dinas Diwylliant, Amanda Evans: “Mae Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam yn enghraifft wych o’r hyn y mae ein cais Dinas Diwylliant yn ei olygu – defnyddio creadigrwydd i ddod â phobl at ei gilydd, rhannu ein straeon a meithrin hyder yn pwy ydyn ni a ble rydyn ni’n mynd.”
“Mae pob gwaith celf yn darlunio ochr wahanol i Wrecsam, o’n gwreiddiau diwydiannol i’n cariad at bêl-droed a cherddoriaeth, a’r diwylliannau a’r ieithoedd niferus sydd bellach yn galw’r lle hwn yn gartref.”
“Mae’r ganmoliaeth gan Gymdeithas Ddinesig Wrecsam yn hwb gwirioneddol i bawb sydd wedi bod yn rhan. Mae’n dangos pan fyddwn ni’n gweithio ar y cyd, rhwng artistiaid, cymunedau, busnesau a llywodraeth leol, y gallwn ni greu rhywbeth sy’n teimlo’n ddilys ac yn arbennig, ac wir yn crynhoi ‘Wrecsam’.”
Mae’r ganmoliaeth gan Gymdeithas Ddinesig Wrecsam yn tynnu sylw at effaith y Llwybr Celf Gyhoeddus fel prosiect creadigol, cydweithredol sy’n arddangos talent leol, yn cryfhau cysylltiadau cymunedol ac yn ychwanegu lliw a chymeriad i strydoedd Wrecsam.
I gael rhagor o wybodaeth am Lwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam, Wrecsam2029 a’u cais ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2029, ewch i’w gwefan swyddogol.

