Ydych chi’n siarad Cymraeg?
Mae hi’n Ddiwrnod Hyrwyddo Hawliau Cymraeg ddydd Gwener, 6 Rhagfyr.
Roedden ni eisiau sicrhau eich bod chi’n gwybod am eich hawliau pan fyddwch chi’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae gennych hawl i ddefnyddio Cymraeg yn y sefyllfaoedd canlynol:
- ysgrifennu atom
- ein ffonio
- siarad â derbynnydd
- rhyngweithio gyda ni ar-lein
- ceisiadau am swyddi
- ffurflenni a dogfennau
a llawer mwy.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am eich hawliau ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.
Dyma fideo y bu i ni ei chyhoeddi’n ddiweddar o Lois Russell-Fone, aelod o’n tîm o Gofrestryddion sy’n siarad Cymraeg.
Gwyliwch y fideo i gael gwybod beth oedd profiadau Lois, a sut mae hi wedi defnyddio’i sgiliau Cymraeg wrth weithio i’r Cyngor.
Dywedodd Stephen Jones, Cyfarwyddwr yr Iaith Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam, “Mae’n bwysig bod siaradwyr Cymraeg yn ymwybodol o’u hawliau ac mae Diwrnod Hyrwyddo Hawliau’n ffordd wych o godi ymwybyddiaeth ohonynt.
“Byddwn yn annog pob siaradwr a dysgwr Cymraeg i ddefnyddio eu Cymraeg wrth gysylltu efo’r Cyngor.”
Os ydych chi’n cael unrhyw drafferthion wrth geisio defnyddio gwasanaethau iaith Gymraeg, cysylltwch â cymraeg@wrexham.gov.uk.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN