Mae cynlluniau i ddymchwel adeilad Greenacres ar Ffordd Rhosddu bellach wedi eu cymeradwyo gan Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam. Fe wnaeth Adolygiad o Adeilad Swyddfa ganfod nad oedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio’n ddigonol, gan arwain at astudiaeth ddichonoldeb i archwilio ei botensial yn y dyfodol.
Mae staff gofal cymdeithasol a oedd wedi’u lleoli yn Greenacres yn flaenorol wedi symud i swyddfa barhaol yng nghanol y ddinas, gan adael yr adeiladau’n wag a’r safle’n barod i’w ailddatblygu.
Nododd yr astudiaeth ddichonoldeb fod y safle yn ddelfrydol ar gyfer cynllun tai cymdeithasol, oherwydd ei fod yn agos at ganol y ddinas.
Ar ôl i ddau adroddiad gael eu cymryd i’r Bwrdd Gweithredol, cafodd y cynlluniau i ddymchwel adeilad Greenacres eu cymeradwyo, gan baratoi ar gyfer ailddatblygu. Mae’r trawsnewid hwn yn canolbwyntio ar adfywio’r safle i adeiladu tai cymdeithasol newydd, gyda’r nod o gyflenwi hyd at 51 o gartrefi newydd – un o brosiectau ailddatblygu mwyaf y Cyngor hyd yma. Bydd hyn yn cyfrannu’n sylweddol at ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â’r galw dybryd am dai cymdeithasol fforddiadwy.
Mae Ffordd Rhosddu yn cynnig lleoliad gwych, yn agos i siopau ac amwynderau eraill, sy’n addawol iawn i’r rhai sy’n chwilio am fywyd cyfleus. Mae’r lleoliad strategol yn cynnig mynediad hawdd i wasanaethau fel siopau bwyd, fferyllfeydd, a chyfleusterau bwyta, gan wella bywyd bob dydd.
Bydd y gwaith dymchwel yn dechrau yn gynnar eleni, ac yn dilyn hynny, bydd proses dendro i ddod o hyd i bartner datblygu er mwyn dylunio ac adeiladu’r cartrefi newydd, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.
Bydd Canolfan Cunliffe, sy’n ganolfan gofal dydd i oedolion, yn parhau i weithredu o’i safle presennol nes y deuir o hyd i safle amgen addas.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, “Mae adfywio’r safle hwn yn gyfle delfrydol i adeiladu mwy o dai cymdeithasol mewn lleoliad gwych sydd wedi’i leoli’n gyfleus yn agos i siopau ac amwynderau eraill.
“Bydd y gwaith dymchwel yn dechrau’n fuan iawn, a byddwn yn cael mwy o drafodaethau ynghylch yr adeiladau posib a fydd wedi’u lleoli yma.”