Mae’r gwasanaeth derbyniadau ysgol bellach ar gael ar-lein ar gyfer lleoedd ysgolion uwchradd yn 2026.
Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau uchod ddydd Llun, 3ydd Tachwedd 2025.
Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir mewn pryd, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau.
Bydd ein hysgolion uwchradd ni’n cynnal eu nosweithiau agored yn yr wythnosau nesaf. Os ydych chi’n ystyried dewisiadau, gallan nhw fod yn gyfle gwych i rieni/gwarcheidwaid a phlant ymweld ag ysgolion i gael syniad o ba fath o le ydyn nhw. Mae dyddiadau nosweithiau agored yr holl ysgolion ar gael ar ein gwefan. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i wneud cais a ‘chwestiynau cyffredin’ ar ein gwefan – Derbyniadau Ysgol CBSW