Oeddech chi’n gwybod y gallwch gael taith dywysedig am ddim o un o safleoedd hanesyddol enwocaf Wrecsam?
Mae Gwaith Haearn y Bers nawr yn fan heddychlon yn Nyffryn Clywedog ond ar un adeg roedd yn safle diwydiannol prysur yn cynhyrchu cynhyrchion haearn a gludwyd ledled y wlad.
Roedd hyn yn cynnwys silindrau injan stêm a hyd yn oed ganonau!
Gwnaed y Gwaith Haearn yn enwog gan Jac ‘Hurt am Hearn’ Wilkinson, un o brif ffigyrau’r Chwyldro Diwydiannol.
Yn y 1700au, datblygodd Jac ddull newydd o greu canonau a oedd yn eu gwneud yn fwy cywir ac yn llai tebygol o ffrwydro’n ddamweiniol.
Gwnaeth yr arloesedd gwych hwn y Bers yn un o’r canolfannau gweithgynhyrchu haearn pwysicaf yn y byd.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Ewch ar daith i mewn i hanes
- Gallwch ddarganfod mwy am y Gwaith Haearn a Jac ‘Hurt am Hearn’ Wilkinson ar eich taith dywysedig am ddim!
- Mae teithiau ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Sadwrn 11 Mai, 10.00am-11.30am
Dydd Sadwrn, Gorffennaf 13, 10.00am-11.30am
Dydd Sadwrn, Medi 7, 10.00am-11.30am - Does dim angen archebu lle – dewch draw ac ymunwch!
- Rydym yn argymell gwisgo esgidiau cadarn.
- Parcio a chwrdd yng Nghanolfan Dreftadaeth y Bers, LL14 4HT
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r amgueddfa:
museum@wrexham.gov.uk
01978 297460
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB