Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymgyrch elusennol Cynghorydd i yrru ar draws Ewrop yn cael cefnogaeth gan gwmni lleol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ymgyrch elusennol Cynghorydd i yrru ar draws Ewrop yn cael cefnogaeth gan gwmni lleol
Pobl a lle

Ymgyrch elusennol Cynghorydd i yrru ar draws Ewrop yn cael cefnogaeth gan gwmni lleol

Diweddarwyd diwethaf: Mai 2, 2019 12:27 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Ymgyrch elusennol Cynghorydd i yrru ar draws Ewrop yn cael cefnogaeth gan gwmni lleol
RHANNU

Bydd un o’n cynghorwyr yn teithio 2,000 milltir ar draws Ewrop mewn ymgyrch i godi arian ar gyfer elusen “hanfodol” yng Nghymru.

Bydd cwmni olew coginio lleol yn talu am ei gostau tanwydd.

Bydd y Cynghorydd Paul Pemberton yn teithio ar hyd llwybr 2,000 milltir o hyd o Rosllanerchrugog i Benidorm yn Sbaen, gan gystadlu yn erbyn mwy na 40 o gerbydau eraill ar hyd y ffordd.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Bydd yn teithio trwy Ffrainc, Yr Almaen, Swistir a’r Eidal cyn teithio i gyfeiriad Sbaen ar hyd y Côte d’Azur tuag at Benidorm trwy Barcelona a Valencia.

Bydd yn cyflawni’r cyfan mewn cerbyd Ford Mondeo o 2004.

Bydd yn ymgymryd â’r her elusennol i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru – un o’r elusennau y mae’r Maer, y Cynghorydd Andy Williams wedi’i gefnogi yn ystod ei gyfnod yn Faer.

Mae’r Cynghorydd Pemberton eisoes wedi derbyn mwy na £2,000 mewn rhoddion gan unigolion, grwpiau a chwmnïau yn Wrecsam.

Un o’r cwmnïau sydd wedi ei gefnogi ydi Fry Fresh Edible Oils Ltd sydd wedi’u lleoli ar Ystâd Ddiwydiannol Vauxhall.

Mae’r cwmni wedi cynnig talu am gostau tanwydd y Cynghorydd Pemberton dros y siwrnai faith i Benidorm.

Dywedodd y Cynghorydd Pemberton: “Dwi’n arbennig o ddiolchgar i Fry Fresh am eu cynnig – rydym yn bwriadu croesi cyfandir gyda’r ymgyrch hwn, ac yn amlwg tanwydd yw un o’n prif gostau, felly mae cael noddwr yn talu am ein costau tanwydd yn ymrwymiad hawl iawn, ac mae’n golygu y gallwn roi hyd yn oed mwy o arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Williams: “Roeddwn i’n falch iawn o allu ymweld â Fry Fresh gyda’r Cynghorydd Pemberton i ddiolch iddynt am eu rhodd hael tuag at ei ymdrechion.

“Dewisais Ambiwlans Awyr Cymru fel un o’r elusennau i’w cefnogi yn ystod fy nghyfnod yn Faer gan eu bod yn darparu gwasanaeth hanfodol ochr yn ochr â’n gwasanaethau brys, ac ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd eu gwaith.

“Felly dwi’n hapus iawn gyda’r gefnogaeth y mae’r Cynghorydd Pemberton wedi’i gael ar gyfer ei ymgyrch codi arian ac fe hoffwn ddiolch i’r rhai sydd wedi rhoi arian hyd yn hyn.”

I gefnogi ymgyrch y Cynghorydd Pemberton, ewch i’w dudalen JustGiving.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dewch i ddarganfod hanes diwydiannol Wrecsam ar taith tywys am ddim... Dewch i ddarganfod hanes diwydiannol Wrecsam ar taith tywys am ddim…
Erthygl nesaf Allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn sydd mewn gofal? Allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn sydd mewn gofal?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English