Dewch i ymuno â ni yn yr ardd ar y to yn Tŷ Pawb ddydd Sadwrn 1 Mehefin 12-2pm i fynd yn wyrdd a dechrau tyfu yr haf hwn.
Mae gennym ni bopeth sydd ei angen arnoch i ‘flodeuo’, waeth pa mor fawr neu fach yw’ch lle tyfu. P’un a oes gennych chi ardd fawr neu focs ffenestr bach, dewch i nôl hadau llysiau a blodau am ddim, gwrandewch ar gyngor arbenigol ac os ydych chi’n teimlo’n wyrdd, ewch ati i arddio.
Gallwch hefyd ymuno yn ein cystadleuaeth tyfu blodyn yr haul. Ewch ag ychydig o hadau blodyn yr haul gyda chi a’u helpu i dyfu drwy’r haf. Bydd y blodyn haul talaf a gawn yn ennill gwobr!
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw tyfu blodyn yr haul, yna mesur yr uchder yn ogystal â thynnu llun ohono, a’i anfon i Nicola.ellis@wrexham.gov.uk erbyn 31 Awst 2024.
Mae ein Diwrnod Tyfu yn ein helpu i ddathlu Prydain yn ei Blodau 2024 a’r thema eleni yw ‘cyfeillgarwch’. Felly, rydym yn annog pobl i gymryd rhan yn ein prosiect celf gymunedol ar y thema cyfeillgarwch. Rydyn ni eisiau darganfod beth mae cyfeillgarwch yn ei olygu i chi. Hoffem ei arddangos mewn gosodiad celf gwych wedi’i ysbrydoli gan flodau yn Tŷ Pawb. Dewch i wneud eich ‘blodyn cyfeillgarwch’ eich hun ac ychwanegu at y ‘gadwyn llygad y dydd’ cymunedol rydym yn ei chreu.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd ‘Rydym yn cydnabod y manteision iechyd a lles pwysig y gellir eu cael drwy fod yn yr awyr agored, garddio a dod yn nes at natur. Dyna pam mae grwpiau garddio fel gardd do Tŷ Pawb yn ffordd wych o feithrin y berthynas honno â phobl a bywyd gwyllt.’
Cynhelir Diwrnod Tyfu ar Ddydd Sadwrn 1 Mehefin rhwng 12 a 2pm, a bydd menig ac offer i helpu i gynnal yr ardd yn ogystal â lluniaeth yn cael eu darparu.
Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau call ar gyfer y tywydd, rhaid i oedolion oruchwylio pob plentyn.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch