Bob blwyddyn, mae ein Ceidwaid yn draenio’r pwll dŵr mawr ym Mharc Stryt Las yn Johnstown.
Maen nhw’n gwneud hyn er mwyn glanhau gwely’r llyn yn iawn a symud y pysgod sydd wedi’u rhwydo gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a’u rhoi mewn pwll dŵr neu lyn arall sydd angen eu stocio. Caiff pysgod eu symud er mwyn eu hatal rhag bwyta’r Madfallod Dŵr Cribog prin gwarchodedig sy’n byw ar y safle.
Mae’r sbwriel yn y llyn yn hyll ac yn aml yn beryglus i’r adar niferus sy’n byw ar y llyn yn Stryt Las. Dros y blynyddoedd rydym ni wedi tynnu arwyddion traffig, beiciau, miloedd o ganiau a photeli a’r trolïau siopa hynod boblogaidd o’r mwd.
Mae’r hwyaid a’r elyrch sy’n byw ar y llyn yn Stryt Las yn rhydd i hedfan i byllau eraill, fel y maen nhw’n ei wneud yn aml, a dychwelyd yno’n nes ymlaen.
Eleni, bydd Wild Ground, sy’n rheoli hanner gogleddol y parc yn cael gwared ar bla o’r rhywogaeth oresgynnol Crassula helmsii hefyd.
Gall Crassula helmsii neu gorchwyn Seland Newydd (briweg y gors Awstralia) ledaenu’n gyflym a dinistrio bywyd mewn pyllau dŵr a llynnoedd.
Mae Stryt Las yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Meddai’r Cyng David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae Stryt Las yn Ardal Cadwraeth Arbennig ddynodedig, a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac rydym yn ffodus iawn o gael ardal fel hyn ar stepen ein drws. Mae’r ceidwaid yn gwneud gwaith gwych wrth ofalu am yr ardal a bydd ymwelwyr rheolaidd â’r parc wedi arfer â’r digwyddiad glanhau blynyddol hwn.”
Meddai Paul Furnborough, Rheolwr Datblygu Gwarchodfeydd, Wild Ground: “Mae hwn yn blanhigyn ymledol iawn sy’n gorchuddio ein pwll dŵr mwyaf eisoes, ac os na chaiff ei reoli, bydd yn lledaenu trwy’r SoDdGA/ACA. Mae’n hynod o niweidiol ac anodd i’w ladd, felly byddwn yn cymryd camau eithafol wrth orchuddio’r pwll dŵr cyfan gyda leinin du i gadw goleuni’r haul allan. Yn ffodus, nid yw’n goroesi’n dda ar wely had, felly pan fyddwn ni’n tynnu’r gorchudd, dylai’r pwll adfywio hebddo.
“Mae’r problemau hyn yn codi’n aml pan fydd pobl â bwriadau da yn gweld pwll sy’n ymddangos yn wag a symud planhigion neu anifeiliaid o safleoedd eraill, ond yn anffodus, gall hyn ledaenu rhywogaeth a chlefydau goresgynnol, felly byddwn yn gosod byrddau gwybodaeth hefyd a diweddaru ein gwefan gyda gwybodaeth am sut i ofalu am byllau dŵr lleol yn y ffordd orau ar gyfer bywyd gwyllt.
“Mae’r math hwn o waith cadwraeth ar raddfa fawr yn ddrud ac anodd, ac ni ellid ei wneud heb gefnogaeth ymarferol gan dîm Ceidwaid Cyngor Wrecsam na chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol trwy’r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, nac ewyllys da a balchder preswylwyr yn eu mannau gwyllt lleol.”
CANFOD Y FFEITHIAU