Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhybudd tywydd – Storm Claudia
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhybudd tywydd – Storm Claudia
ArallY cyngor

Rhybudd tywydd – Storm Claudia

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 14, 2025 10:19 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Weather alert - heavy rain
RHANNU

Rhybudd tywydd 14-15 Tachwedd

Gallwch roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw faterion brys (llifogydd, difrod oherwydd storm, coed wedi cwympo ac ati) ar y rhifau canlynol:

  • (24 awr) 01978 298989
  • Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993. Ar ôl oriau gwaith yn unig, gallwch hefyd anfon e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk

Ffoniwch ni os yw’n fater brys yn unig – ar gyfer materion eraill, helpwch ni trwy roi gwybod am faterion ar-lein:

Materion cyffredinol
Gwaith trwsio tai

Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion o ran colli trydan trwy ffonio 105. (Mae Powercut 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth).

Gellir rhoi gwybod i Dŵr Cymru ar 0800 085 3968 am unrhyw argyfyngau lle bydd carthion yn gorlifo o ddraeniau.

Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.

Awgrymiadau ar gyfer toriadau pŵer – gan Scottish Power

  • Gwnewch yn siŵr bod gennych chi rif y llinell gymorth genedlaethol ar gyfer argyfyngau, sef 105 – beth am roi’r rhif ar yr oergell neu ei arbed fel rhif cyswllt ar eich ffôn symudol? Rhowch wybod am unrhyw doriad pŵer ar unwaith.
  • Sicrhewch fod gennych chi dortsh batri neu dortsh troi â llaw wedi ei gadw mewn man hwylus er mwyn i chi allu edrych ar y bocs ffiws a mynd o un ystafell i’r llall yn ddiogel.
  • Byddwch yn wyliadwrus o linellau pŵer sydd wedi syrthio, efallai eu bod nhw wedi syrthio oherwydd eira trwm felly byddwch yn ofalus wrth fentro allan o’ch cartrefi. Dylech chi gymryd bod trydan yn fyw ynddynt bob amser, a rhowch wybod amdanynt ar unwaith drwy ffonio 105.
  • Cadwch eich ffôn symudol wedi’i wefru’n llawn– bydd hyn yn eich galluogi i ffonio am gymorth os oes angen. Efallai ei bod hi’n syniad cael ffôn analog hefyd, gan nad yw hwn yn rhedeg oddi ar y prif gyflenwad trydan.
  • Cadwch y gwres yn y tŷ – os ydych chi’n cael toriad pŵer, mae’n bosibl na fydd eich gwres chi’n gweithio felly gwnewch yn siŵr bod gennych chi flancedi ychwanegol ger llaw a chaewch y ffenestri, y bleindiau, a’r llenni er mwyn cadw’r gwres yn y tŷ.

Cofiwch: Os oes ceblau ar y llawr neu’n agos at y llawr, cadwch draw oddi wrthynt. Mae’n bosibl fod trydan yn fyw ynddynt, a’u bod yn dal i allu dargludo trydan drwy lawr llaith ac eitemau metel.

Os ydy’r ceblau ar y ffordd, neu ar lwybrau cerdded, ffoniwch 999 a dywedwch wrth yr heddlu. Arhoswch ar y safle os ydych chi’n gallu er mwyn sicrhau bod y bobl sy’n pasio yn cadw’n ddigon pell i ffwrdd.

Rhannu
Erthygl flaenorol Fireworks Disgo tawel a arddangosfa tan gwyllt swn isel Lleoedd Diogel
Erthygl nesaf homes and businesses Cartrefi a busnesau – grantiau ar gyfer boeler newydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English