Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dim esgus. Byth. Sut i roi gwybod am achosion o werthu tybaco anghyfreithlon.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dim esgus. Byth. Sut i roi gwybod am achosion o werthu tybaco anghyfreithlon.
Y cyngor

Dim esgus. Byth. Sut i roi gwybod am achosion o werthu tybaco anghyfreithlon.

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 9, 2022 4:13 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
No Ifs No Butts
RHANNU

Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon yn broblem fawr yng Nghymru, ac yma yn Wrecsam rydym yn cefnogi ymgyrch genedlaethol newydd Llywodraeth Cymru, “Dim esgus. Byth.”, sydd â’r nod o roi diwedd ar hyn.

Cynnwys
  • Dim esgus. Byth.  Helpwch ni i yrru’r fasnach hon allan o Wrecsam
  • Beth yw tybaco anghyfreithlon?

Mae gwerthu tybaco yn anghyfreithlon yn rhoi sigaréts yn nwylo plant yn ogystal ag yn niweidio iechyd y cyhoedd, busnesau lleol a gall gyfrannu at droseddau cyfundrefnol difrifol.

CADWCH YN DDIOGEL – DERBYNIWCH Y RHYBUDDION DISEDDARAF AR SGAMIAU GALW NÔL CYNNYRCH A MATERION DIOGELU’R CHYHOEDD ERAILL

Nod yr ymgyrch yw annog pobl i gamu ymlaen a gadael i Safonau Masnach wneud eu gwaith i gael gwared â thybaco anghyfreithlon o’n cymunedau, a’u cadw oddi wrth ein plant, ein teulu a’n ffrindiau.

Dim esgus. Byth.  Helpwch ni i yrru’r fasnach hon allan o Wrecsam

Meddai Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Mae ysmygu’n niweidio iechyd yn ddifrifol a dydi masnachwyr tybaco anghyfreithlon ddim yn meddwl ddwywaith am werthu i blant.

“Os gwyddoch chi am rywun sy’n gwerthu’r cynnyrch hwn, rhowch wybod am y peth drwy ddilyn y ddolen isod a helpu gyrru’r fasnach hon allan o Wrecsam.”

Beth yw tybaco anghyfreithlon?

Mae yna nifer o wahanol fathau o dybaco anghyfreithlon ac mae’n cyfeirio at sigaréts a phecynnau tybaco rholio â llaw anghyfreithlon. Y mathau mwyaf cyffredin yw:

  • Tybaco go iawn rhad sydd wedi’i smyglo i’r DU heb dalu tollau arno (yn aml, mae’r ysgrifen ar y pecyn mewn iaith dramor a does yna ddim rhybuddion iechyd arno).
  • Cynnyrch ffug sy’n edrych fel brandiau enwog ond sy’n cael eu gwneud yn anghyfreithlon.
  • Sigaréts gwyn rhad (cheap whites) sy’n cael eu masgynhyrchu mewn un wlad a’u smyglo i mewn i wlad arall.
  • Sigaréts sy’n cael eu gwerthu fesul un yn lle mewn pecynnau.

Mae’n rhestr eithaf maith, ond os nad ydych chi’n siŵr o rywbeth, rhowch wybod amdano.

Mae gwerthwyr anghyfreithlon yn defnyddio nifer o ddulliau o werthu tybaco anghyfreithlon. Y ffyrdd mwyaf cyffredin o werthu yw:

  • mewn siopau
  • mewn cartrefi preifat
  • mewn tafarndai a chlybiau
  • dros y cyfryngau cymdeithasol
  • o gist car
  • ar y stryd

Un arwydd da bod y tybaco yn anghyfreithlon yw’r pecyn. Os nad yw’r ysgrifen ar y pecyn yn Saesneg, os nad yw’r pecyn yn wyrdd plaen ac os nad oes yna rybuddion iechyd arno, mae’n debygol iawn ei fod yn anghyfreithlon. Hefyd, mae prisiau rhad a brandiau anhysbys yn arwyddion go dda.

Gallwch roi gwybod am unrhyw un sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon heb roi’ch enw drwy ddilyn y ddolen hon.

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Llan y pwll Gwnewch gais rŵan ar gyfer derbyn disgyblion i’r dosbarth Meithrin a’r dosbarth Derbyn yn Ysgol Llan-y-pwll.
Erthygl nesaf St David's Day Gorymdaith unwaith eto i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2022!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Crematorium
Y cyngor

Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English