Dymuna Cyngor Wrecsam ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad diweddar ar ddyfodol ei llyfrgelloedd a’i chanolfannau adnoddau.
Mae’r cyngor yn rheoli 10 llyfrgell cangen, llyfrgell cyswllt cartref a llyfrgell dros dro, a phum canolfan adnoddau cymunedol.
Ond fel y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, mae Wrecsam yn wynebu heriau ariannol sylweddol ac mae’n mynd yn anoddach cael dau ben llinyn ynghyd.
O ganlyniad, mae’r cyngor yn bwriadu arbed o leiaf £185,000 o’i gyllideb weithredu ar gyfer llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau.
Gofynnodd yr ymgynghoriad i bobl rannu eu barn ar opsiynau gwahanol ar gyfer arbed arian a darparu’r gwasanaethau hyn mewn ffordd wahanol.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Corfforaethol: “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Mae mor bwysig ein bod yn deall beth mae pobl yn ei ddisgwyl o’u llyfrgelloedd a’u canolfannau adnoddau wrth symud ymlaen, a chawsom 994 o ymatebion i gyd.
“Rydyn ni nawr yn dadansoddi’r holl ddata ac yn edrych i mewn i’r awgrymiadau a’r syniadau y mae pobl wedi’u cyflwyno. Bydd hyn yn cymryd amser, felly byddwch yn amyneddgar gyda ni.
“Unwaith y byddwn wedi cadarnhau’r opsiynau sydd ar gael, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor craffu ac yna i’r Bwrdd Gweithredol am benderfyniad.”