Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diolch yn fawr am y gwaith yn hosbis Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Diolch yn fawr am y gwaith yn hosbis Wrecsam
ArallPobl a lleY cyngor

Diolch yn fawr am y gwaith yn hosbis Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 16, 2019 10:31 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Diolch yn fawr am y gwaith yn hosbis Wrecsam
RHANNU

Rydym oll yn ymwybodol o’r gwasanaeth hynod bwysig y mae Hosbis Tŷ’r Eos yn ei ddarparu – ar hyd a lled Wrecsam ac yn ehangach yn y Gogledd-ddwyrain.

Mae’r hosbis yn darparu gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol yn rhad ac am ddim i gleifion a’u teuluoedd ar draws ardal eang sy’n ymestyn o Wrecsam, Sir y Fflint a Dwyrain Sir Ddinbych i Abermaw a’r trefi ar y ffin gan gynnwys Croesoswallt a’r Eglwys Wen.

Yn ddiweddar, bu swyddogion o’n tîm tai yn helpu trefnu gwaith adnewyddu ar ran o’r hosbis, gan ddarparu cyfleusterau fel sinc y gellir ei addasu a gwell toiled yn un o ystafelloedd ymolchi’r hosbis.

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Roeddem eisiau diolch i’r contractwyr a roddodd eu hamser, eu hadnoddau a’u hymdrech i’r gwaith adnewyddu, gan gyfrannu eitemau fel cypyrddau storio, lloriau, paent, gosodiadau plymio a’r offer newydd.

Diolch yn fawr am y gwaith yn hosbis Wrecsam

Cynhaliwyd y gwaith dan y cynllun Houseproud, sy’n helpu perchnogion i gydlynu gwaith y mae angen ei wneud i’w cartrefi ac yn eu rhoi mewn cysylltiad â chontractwyr dibynadwy ag enw da.

Roedd D Nixon Plumbing, Clos-o-Mat Ltd, Polyflor Ltd, Colour Supplies a Travis Perkins i gyd yn gontractwyr a gymerodd ran yn y gwaith, gan gyfrannu cyflenwadau, deunyddiau ac offer yn ogystal â’u hamser a’u harbenigrwydd.

Bu i Synthite o’r Wyddgrug hefyd gyfrannu £2,000 tuag at yr ystafell ymolchi.

Diolch yn fawr am y gwaith yn hosbis Wrecsam
Jon Mullen o D Nixon Plumbing; Paul Martin o Cyngor Wrecsam; Larry Beale o Clos-o-mat Ltd; Darren Nixon o D Nixon Plumbing; David Reilly o Polyflor Ltd

Meddai’r Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Hoffwn ddiolch i’r contractwyr hynny a weithiodd ochr yn ochr â staff ein cynllun Houseproud a’r tîm yn Nhŷ’r Eos i ddarparu’r ychwanegiadau a’r gwelliannau gwerthfawr hyn i’r ystafell ymolchi.

“Mae Tŷ’r Eos yn gwneud gwaith anhygoel yn ein cymuned a thu hwnt, ac rydym yn falch iawn o gael eu cefnogi.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Eisiau help i leihau eich bil ynni? Darllenwch ymlaen... Eisiau help i leihau eich bil ynni? Darllenwch ymlaen…
Erthygl nesaf Ydych chi wedi darllen holl lyfrau eich hoff awdur...yna dyma beth i’w wneud nesaf! Ydych chi wedi darllen holl lyfrau eich hoff awdur…yna dyma beth i’w wneud nesaf!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Elevate Conference
Cynhadledd Am Ddim Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam yn Dychwelyd 6 Tachwedd
Digwyddiadau
Medi 30, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English