Mae disgyblion yn Wrecsam yn dechrau’r diwrnod yn y ffordd iawn gyda WOW – her cerdded i’r ysgol Living Streets.
Yng Nghymru, mae miloedd o blant yn mwynhau’r buddion o gerdded, beicio neu fynd ar olwynion i’r ysgol diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Fel rhan o brosiect dwy flynedd, mae Living Streets Cymru’n gweithio gyda 170 o ysgolion cynradd a 42 o ysgolion uwchradd i ddarparu ei raglen cerdded i’r ysgol yng Nghymru.
Mae wyth ysgol yn Wrecsam yn cymryd rhan yn WOW – her cerdded i’r ysgol Living Streets lle mae disgyblion yn cofnodi sut maent yn mynd i’r ysgol gan ddefnyddio Traciwr Teithio rhyngweithiol WOW a bydd y rhai sy’n cerdded, seiclo, mynd ar olwynion, sgwter neu’n ‘parcio a cherdded’ i’r ysgol yn derbyn bathodyn WOW misol.
Dim ond 50% o blant ysgol gynradd yng Nghymru sy’n cerdded i’r ysgol ac mae Living Streets yn gweithio i helpu rhagor o deuluoedd i ddewis ffyrdd glanach ac iachach o deithio. Mae ysgolion WOW fel arfer yn gweld cynnydd yn y cyfraddau cerdded o 43% (lle mae disgyblion yn cerdded, seiclo, mynd ar olwynion, sgwter neu’n ‘parcio a cherdded’ i’r ysgol) a gostyngiad o 59% yn y ceir sy’n gyrru i giatiau’r ysgol.
Mae mis Hydref yn Fis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol a bydd disgyblion o amgylch y byd yn mwynhau cerdded neu fynd ar olwynion i’r ysgol. Eleni, mae Living Streets yn annog plant i fynd ar Saffari Stryd yr Hydref gan dreulio ychydig funudau yn cerdded i’r ysgol i gasglu eitemau arbennig a dathlu’r hydref gyda gweithgareddau hwyliog, sydd hefyd ar gael yn Gymraeg.
Meddai Catherine Woodhead, Prif Weithredwr Living Steets:“Mae cerdded neu fynd ar olwynion i’r ysgol yn ffordd hwyliog a syml i blant gwblhau 60 munud o weithgarwch corfforol y dydd yn unol ag argymhellion arbenigwyr iechyd. Mae’n wych ar gyfer lles meddyliol ac yn helpu i leihau tagfeydd, allyriadau carbon a llygredd aer.
“Rwy’n falch iawn fod disgyblion yn Wrecsam yn mwynhau’r buddion o gerdded i’r ysgol gyda WOW.”
Rhwng 1 Medi, 2023 a 31 Gorffennaf, 2024 mae’r wyth ysgol yn Wrecsam wedi gweld y cyfartaledd canlynol:
- Cynnydd o 68% mewn cyfraddau teithio llesol i’r ysgol.
- Lleihad o 74% mewn gyrru’r holl ffordd i’r ysgol.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Mae’n galonogol iawn gweld ffigurau mor gadarnhaol. Mae teithio llesol yn arwain at well iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol, hefyd mae’n lleihau llygredd sŵn, llygredd aer ac allyriadau carbon. Mae mwy o bobl yn croesawu teithio llesol a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.”
Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg yng Nghyngor Wrecsam: “Rydym yn falch iawn â’r ffordd y mae’r wyth ysgol wedi croesawu’r her, sydd wedi arwain at ganlyniadau gwych. Dylai’r plant, athrawon, rhieni a gofalwyr fod yn falch iawn o’u cyflawniadau.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.