Gan fod heddiw’n Ddiwrnod Aer Glân, mae Cyngor Wrecsam wedi cymharu’r lefelau Nitrogen Deuocsid yn yr orsaf ansawdd aer ar Ffordd Buddug yn Wrecsam yn ystod y cyfnod clo pan roedd llai o gerbydau ar y ffordd, gyda’r rhai a gofnodwyd yn ystod yr un cyfnod y llynedd.
Mae’r data’n dangos fod lefelau Nitrogen Deuocsid yn is yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol yn 2020. Lefel cyfartalog Nitrogen Deuocsid a gofnodwyd dros y cyfnod clo o 22 Mawrth i 1 Mehefin oedd:
- 2019 – 18.8 µg/m³
- 2020 – 11.7 µg/m³
Mae hynny’n ostyngiad o tua 38% yn y lefelau Nitrogen Deuocsid a gofnodwyd yn 2020. Mae’r ddau werth ymhell o dan y terfyn blynyddol o 40 µg/m³ yn y Rheoliadau Ansawdd Aer.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae’r uchod yn gymhariaeth tebyg at ei debyg o’r lefelau Nitrogen Deuocsid a gofnodwyd heb i unrhyw ffactorau eraill gael eu hystyried. Rhagwelir y bydd astudiaethau gwyddonol pellach yn cael eu cynnal ar lefel cenedlaethol yn ystod y misoedd i ddod.
Mae rhagor o wybodaeth ar raglen ansawdd aer Cyngor Wrecsam ar gael ar ein gwefan http://old.wrexham.gov.uk/welsh/environment_w/air_quality_w/index.htm
Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd aer yng Nghymru, gan gynnwys canlyniadau monitro, ar gael ar wefan ansawdd aer Cymru https://airquality.gov.wales/cy
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG