Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canolbwyntio ar ein Perfformiad – sut ydym ni’n gwneud?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Canolbwyntio ar ein Perfformiad – sut ydym ni’n gwneud?
Y cyngor

Canolbwyntio ar ein Perfformiad – sut ydym ni’n gwneud?

Diweddarwyd diwethaf: 2020/10/08 at 4:16 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Performance
RHANNU

Bob blwyddyn, rhaid i ni lunio adolygiad blynyddol o’n perfformiad ar draws nifer o feysydd lle mae’r cyngor yn gweithio – meysydd fel addysg, gofal cymdeithasol i oedolion, yr amgylchedd, priffyrdd, yr economi ac eraill.

Cynnwys
Lle rydym ni’n perfformio’n ddaLle rydym ni eisiau gwella

Mae canlyniadau’r adolygiadau hynny yn cael eu cyhoeddi yn ein hadroddiadau blynyddol – Canolbwyntio ar ein Perfformiad.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Mae adroddiad Canolbwyntio ar ein Perfformiad ar gyfer 2019/20 bellach ar gael i’w ddarllen, a bydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol yr wythnos nesaf.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae’n mesur ein perfformiad yn erbyn yr amcanion lles a blaenoriaethau yn ystod y flwyddyn yng Nghynllun y Cyngor 2019-2022, a’r bedair thema bwysig y mae’n eu nodi – economi, pobl, lle a threfniadaeth.

Nid yw’n gwirio popeth rydym ni’n ei wneud, ond yn hytrach mae’n edrych sut rydym ni’n perfformio mewn meysydd allweddol.

Bydd adroddiad Canolbwyntio ar ein Perfformiad eleni yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ddydd Mawrth 13 Hydref.

Gadewch i ni daro golwg ar ychydig o’r prif feysydd sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

Lle rydym ni’n perfformio’n dda

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o feysydd lle rydym ni’n perfformio’n dda, sydd wedi’u nodi’n wyrdd.

Mae rhai o’r uchafbwyntiau sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • Mae nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref wedi gwella’n fawr yn ystod 2019/20.
  • Mae gwerth gwariant ymwelwyr yn 2019/20 wedi cynyddu i £125 miliwn.
  • Bu gostyngiad yn nifer y troseddau â dioddefwyr yn Wrecsam o gymharu â 2018/19.
  • Ym mis Tachwedd 2019, gwnaethom symud ar draws i’r system TG newydd iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd.
  • Gwnaethom fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy ailgyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Tref Wrecsam.
  • Bu cynnydd o 4,818 o oriau gwirfoddolwyr yn cefnogi datblygu chwaraeon a 2,908 o oriau yn cefnogi parciau a pharciau gwledig.
  • Bu cynnydd yn y ganran o ffyrdd ‘A’ a ffyrdd ‘B’ sydd mewn cyflwr da ers 2018/19, ac mae hyn yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru.
  • Mae gennym 76 o wahanol wasanaethau ar-lein ar gael i gwsmeriaid bellach trwy’r platfform digidol.

Lle rydym ni eisiau gwella

Mae yna feysydd eraill yn yr adroddiad Canolbwyntio ar ein Perfformiad lle nad ydym wedi cyflawni’r gwelliannau roeddem eisiau, neu angen gwneud yn well, ac maent wedi’u graddio naill ai’n oren neu’n goch yn yr adroddiad.

Mae rhai o’n meysydd i’w gwella, sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • Gwella canlyniadau i ddysgwyr ysgolion, yn enwedig yng Nghyfnod Allweddol 4
  • Mynd i’r afael â’r cynnydd o ran nifer y bobl yn Wrecsam nad oes ganddynt gymwysterau a’r cynnydd o ran nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau.
  • Ym maes Gofal Cymdeithasol, mae’r ganran o’r holl adolygiadau statudol a gaiff eu cynnal o fewn y terfynau amser yn gwella ond nid ydym wedi cyrraedd ein targed.
  • Ym maes Gofal Cymdeithasol i Blant, mae canran yr asesiadau a gwblhawyd ar gyfer plant o fewn y terfynau amser statudol yn lleihau.
  • Gwnaeth canran y ffyrdd (C) sydd mewn cyflwr gwael yn gyffredinol gynyddu yn ystod 2019/20.

Mae rhai o’r meysydd hyn yn mynd i’r cyfeiriad cywir – ond mae’n rhaid i ni barhau i weithio’n galed i wneud gwelliannau lle gallwn ni.

Er mwyn gwylio’r drafodaeth am adroddiad Canolbwyntio ar ein Perfformiad, gwyliwch y gweddarllediad byw o gyfarfod ein Bwrdd Gweithredol am 10am ddydd Mawrth, 13 Hydref.

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

Lawrlwythwch yr ap GIG

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 – Pam fod gennym ni gyfyngiadau lleol a sut i gael prawf
Erthygl nesaf Diwrnod Aer Glân 2020 Diwrnod Aer Glân 2020

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 2, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor Gorffennaf 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Y cyngor

Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu

Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr

Mehefin 30, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English