Mae Diwrnod Croeso i’ch Pleidlais, 10 Mawrth, ac mae’r Comisiwn Etholiadol yn gofyn i elusennau a sefydliadau’r sector cyhoeddus eu helpu i godi ymwybyddiaeth.
Mae’r Comisiwn Etholiadol yn cynnal Diwrnod Croeso i’ch Pleidlais i godi ymwybyddiaeth am yr hawl i bleidleisio ymysg dinasyddion tramor sydd newydd gael eu hetholfreinio yng Nghymru.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Maent yn annog elusennau a sefydliadau’r sector cyhoeddus i gynnal sesiynau gwybodaeth i bleidleiswyr ar 5 Mai, gan ddefnyddio eu hadnoddau newydd ar gyfer dinasyddion tramor cymwys, sy’n cynnwys adran Holi ac Ateb mewn gwahanol ieithoedd a chanllawiau hwyluswyr. Maent hefyd wedi cyhoeddi pecyn cyfathrebu y gallwch ei ddefnyddio i ledu’r gair ar draws eich sianeli, ar y cyd gyda’n hadnoddau digidol ‘Croeso i’ch Pleidlais.
Mae holl adnoddau ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Rhannwch ‘rhain gyda chydweithwyr a sefydliadau yn eich ardal leol. Os oes gennych eich digwyddiadau eich hun neu weithgareddau wedi’u cynllunio ar gyfer y diwrnod, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio’r hashnodau #DiwrnodCroesoI’chPleidlais.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am yr ymgyrch anfonwch neges e-bost i infowales@electoralcommission.org.uk.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH