Mewn digwyddiad rhwydweithio gwib diweddar yn Ysgol Rhosnesni, bu cyflogwyr Cymraeg eu hiaith o’r ardal yn ymweld â’r ysgol i siarad â disgyblion am eu profiadau.
Rhoddwyd llyfr gwaith i bob disgybl i’w lenwi a buont yn cymryd tro i gyflwyno eu hunain a gofyn cwestiynau yn Gymraeg. Roedd y diwrnod yn rhan o uned TGAU Cymraeg ac roedd yn darparu tystiolaeth gefnogol tuag at gymhwyster Bagloriaeth Cymru ‘defnyddio’r Gymraeg’.
Meddai’r Arweinydd Cwricwlwm Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni, Meinir Tomos Jones: “Mae cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr siarad Cymraeg mewn amrywiaeth o gyd-destunau go iawn yn rhan hanfodol o’n darpariaeth Gymraeg yn Ysgol Rhosnesni. “Mae cynnal ffair swyddi Gymraeg yn sicrhau bod myfyrwyr Ysgol Rhosnesni yn ymarfer eu Cymraeg, sy’n sgil cyflogadwyedd allweddol, mewn lleoliad ffurfiol gyda chyflogwyr lleol; mae hyn yn meithrin hyder a rhoi mantais iddynt wrth iddynt fynd i farchnad gyflogaeth gystadleuol.
Meddai Stephen Jones, Swyddog y Gymraeg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Cafodd disgyblion gipolwg da ar rôl bwysig y Gymraeg ym mywydau pobl o ddydd i ddydd ac yn y gweithle. Mae’r digwyddiad hwn hefyd yn dangos sut mae gallu siarad Cymraeg yn ffordd o roi hwb i gyflogadwyedd.
Meddai Lesley Lloyd, Ymgynghorydd Ymgysylltu Busnes (Wrecsam) gyda Gyrfa Cymru: “Rhoddodd y digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni gyfle i bobl ifanc gael blas ar lawer o siwrneiau gyrfaol a rhannu gwybodaeth werthfawr am sgiliau dwyieithog yn y byd gwaith a’r cyfleoedd sydd ynghlwm â siarad Cymraeg. “Mae arwydd o’r diddordeb, ymrwymiad a boddhad a wnaed gan y sefydliadau cefnogol wedi’i gyfleu yn eu brwdfrydedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau Cymraeg yn y Gweithle yn y dyfodol yn ysgolion Wrecsam.”
Mae rhagor o wybodaeth am addysg Gymraeg yn Wrecsam ar gael yma.
Y cyflogwyr a oedd yn bresennol oedd:
BIPBC, HSBC, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Coleg Cambria, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Scottish Power Energy Network, Prifysgol Glyndŵr, Tai Clwyd Alyn, Syniadau Mawr Cymru, Freedom Leisure, Siop Siwan, Chwarae Teg, Magnox ac Alun Griffiths Civil Engineering.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR