Mae Diwrnod Hwyl a Ras Hwyaid Melin y Nant yn ei ôl ar gyfer 2024. Mae’n addo bod yn ddigwyddiad llawn hwyl i’r teulu, gyda sesiynau gwylltgrefft a natur, gweithgareddau, cystadlaeuaeth enw’r tedi, paentio wynebau, a llawer mwy.
Bydd y Ras Hwyaid yn dechrau am 1.30 pm a phris yr hwyaid fydd £1 yr un (rhaid talu ag arian parod yn unig ar y diwrnod). Cynhelir sawl Ras Hwyaid cyn-derfynol a bydd enillwyr y rowndiau hyn yn dychwelyd i’r dŵr ar gyfer un ras olaf i goroni’r pencampwr.
Dywedodd Tim Woodcock – Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gymunedol Melin y Nant, “Rydyn ni’n llawn cyffro ar gyfer Ras Hwyaid Melin y Nant, a gynhelir ochr yn ochr â Groundwork Gogledd Cymru a’r tîm o Bartneriaeth Dyffryn Clywedog. Mae bob amser yn ddiwrnod gwych a hwyliog i bawb sy’n cymryd rhan ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i Felin y Nant.”
Bydd lluniaeth ar gael ar y diwrnod diolch i Sefydliad y Merched Coedpoeth, a chefnogir gweithgareddau’r diwrnod gan Cybiaid a Sgowtiaid Coedpoeth. Diolch i ASDA Coedpoeth, Spar Coedpoeth a’r grwpiau natur a threftadaeth lleol eraill a fydd yn ymuno â ni i gefnogi’r digwyddiad hwn.
Eleni byddwn yn codi arian i gefnogi Ymddiriedolaeth Gymunedol Melin y Nant
Eleni byddwn yn codi arian i gefnogi Ymddiriedolaeth Gymunedol Melin y Nant. Mae Ymddiriedolaeth Gymunedol Melin y Nant yn rhan o Bartneriaeth Dyffryn Clywedog, o dan arweiniad Groundwork Gogledd Cymru, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o sefydliadau a grwpiau cymunedol sydd oll â diddordeb yn nhreftadaeth Dyffryn Clywedog, lle mae Melin y Nant.
Ar hyn o bryd mae Partneriaeth Dyffryn Clywedog yn gweithio gyda’r gymuned leol i ddatblygu cynlluniau i adfer a gwella’r safleoedd treftadaeth yn Nyffryn Clywedog er budd ymwelwyr a bywyd gwyllt, gwella hygyrchedd, creu a diweddaru’r wybodaeth a’r dehongli ar draws y dyffryn, a llunio rhaglenni addysg ac ymgysylltu â’r gymuned ar gyfer y dyfodol.
Bydd tîm Partneriaeth Dyffryn Clywedog ar gael ar y diwrnod i ateb cwestiynau am y cynlluniau ac maent yn awyddus i aelodau’r gymuned rannu adborth a syniadau am y pethau sy’n bwysig iddynt yn yr ardal (mae arolwg ar-lein lle gallwch rannu eich barn am Ddyffryn Clywedog ar gael hefyd).
Mae parcio yn gyfyngedig ym Melin y Brenin felly defyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus lle bo’n bosibl. Derbynnir arian parod yn unig ar gyfer yr holl weithgareddau.
Yn bwriadu galw heibio? Rhowch wybod i’r tîm drwy ymweld â’r dudalen digwyddiadau ar dudalen Facebook Groundwork Gogledd Cymru.
Cynhelir y digwyddiad hwn diolch i arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ynghyd ag arian gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a nawdd y sefydliadau partner.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen A allech chi fod yn gefnogwr rhieni?
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch