Dod at Cyngerdd Kings of Leon ac yn ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…

Mae 2 gyngerdd mawr Kings of Leon yn y Cae Ras y penwythnos hwn, bydd Wrecsam yn croesawu mewnlifiad o ymwelwyr – bydd llawer yn ymweld am y tro cyntaf, felly Croeso i Wrecsam. 

* Ar gyfer lleoliadau penodol isod, byddwn yn defnyddio cod post – mae hwn yr un fath â Chod Zip. 

CYRRAEDD YMA

Cludiant

Os nad ydych yn aros yn Wrecsam, cynlluniwch ar gyfer eich taith gartref ymlaen llaw oherwydd disgwylir y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn brysur iawn.

Lleoliad yr Orsaf Rheilffordd –  LL11 2AA

Ewch i Arriva Trains Wales Tickets | now Transport for Wales | Trainline (thetrainline.com) neu Lawr-lwythwch yr ap ‘the trainline’ ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf a phrynu tocynnau.

Lleoliad Gorsaf Fysiau – LL11 1LF

I gael gwybodaeth am docynnau a theithio ewch i  Bus Travel in Wrexham | Tickets & Times | Arriva Bus

TacsiARCHEBWCH O FLAEN LLAW!!! Ein prif gwmni tacsi yw Hackney Cabs sydd wedi’i leoli ar King Street, ochr draw i’r orsaf fysiau (LL11 1LF) Mae rhestr o gwmniau canol y ddinas ar gael ar waelod y ddogfen hon.

Meysydd parcio –  Dolen i fap a rhestr o feysydd parcio yn Wrecsam.

UBER/BOLT-  Nid yw’r gwasanaethau hyn yn gweithredu fel arfer yn Wrecsam.

Parcio a Theithio LL13 7UB

Lleoliadau – Swyddfa Dai Ffordd Rhuthun ac Ysgol Clywedog  

Llwybr – Bydd y gwasanaeth parcio a theithio yn casglu yn y meysydd parcio, mynd ar hyd A525 Ffordd Rhuthun, Ffordd yr Wyddgrug ac yn gollwng ar Ffordd yr Wyddgrug yn y rhan sydd wedi cau, ac yn gweithredu o 1pm tan hanner nos, gyda’r daith dychwelyd y tu allan i Macron Stand ar Ffordd yr Wyddgrug (Y Cae Ras).

Mae llefydd parcio a theithio ar gael i’w harchebu trwy wefan eDocynnau Clwb Pêl-droed Wrecsam nawr, a byddant yn parhau ar werth tan 9am ddydd Sadwrn 27 Mai.

Ble i fwyta

Mae hwn yn gwestiwn anodd gan fod gymaint o ddewis – felly rydym yn ceisio cynnwys ardaloedd i fwyta yn hytrach na’r ffefrynnau!

Bank Street – LL11 1AH

Stryd hanesyddol hen ffasiwn yn llawn busnesau annibynnol, gallwch ymweld â Marrubis (y caffi hynaf yn Wrecsam), cael coffi neu Sushi yma!

Stryd Fawr LL13 8LP

Canolbwynt bywyd nos yn Wrecsam, mae’r stryd fawr yn cynnwys nifer o fwytai a bariau yn ogystal â nifer o leoliadau bwydydd brys.

Tŷ Pawb (ar gau ar ddydd Sul)- LL13 8BB

Bar llawn, bwyd figan, pastai gartref, cyri, pwdinau, adenydd cyw iâr a llawer mwy gan ein masnachwyr bwyd annibynnol.

Dôl yr Eryrod – Ll13 8DG

Ystod o fwytai cadwyn sefydledig.

Dim ond ychydig o awgrymiadau o lefydd i fwyta ydi’r rhain. Wrth gerdded o amgylch Canol y Ddinas rydych yn debygol o ddod ar draws llefydd gwych i fwyta gan gynnwys bwyd Pwyleg, Portiwgeaidd, Indiaidd a Chymreig.

Ble i yfed

Cwestiwn anodd, faint o amser sydd gennych chi? 

Mae rhywbeth at ddant pawb. Mae rhai tafarndai yn rhai ‘yfed’ ac mae eraill yn canolbwyntio ar gynnig bwyd ac yn gyffredinol yn addas i deuluoedd. Mae rhai yn dafarndai cadwyn (bragdai mawr yn eu perchen) ac eraill yn cael eu rhedeg a than berchnogaeth annibynnol. 

Os nad ydych yn sicr – gofynnwch i rywun lleol ac rydym yn sicr y cewch ddigon o awgrymiadau o lefydd y gallwch ymweld â hwy.

Pethau i’w Gweld

Tŷ Pawb – LL13 8BB (www.typawb.wales/)

Mae Tŷ Pawb yn ganolfan amlbwrpas. Mae’n gweithredu fel lleoliad i ddigwyddiadau celf, diwylliannol a chymunedol, yn ogystal â marchnad ac oriel gelf – hefyd y llynedd roedd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr ‘Amgueddfa’r Flwyddyn’. 

Dydd Sadwrn ‘QUEENS of Leon!’ – Cerddoriaeth byw yn y Cwrt Bwyd: 

12pm-1pm – Shellie Roberts

1pm-2pm – Sasha Duchnowska

2pm-3pm – Isabella Crowther

Gweithgareddau teulu

10am-12pm – Clwb Celf i’r Teulu

10am-12pm ac 2pm-4pm – Gweithdy i’r teulu yn Gwneud Cylchgronau Eich Hun AM DDIM

Eglwys San Silyn – LL13 8LS

Mae’r tŵr yn San Silyn un o 7 o ryfeddodau Cymru. Adnabyddir yr eglwys fel un o enghreifftiau gorau o bensaer eglwysig yng Nghymru.

Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam (ar gau ar ddydd Sul)

Siop wybodaeth un stop i ymwelwyr Wrecsam. Dod o hyd i rywle i fynd, beth i’w wneud a chael cofroddau gwych Wrecsam a Chymru. 

Amgueddfa Wrecsam (Ar gau ar ddydd Sul) – LL11 1RB

Safle dyfodol amgueddfa Pêl-droed Cymru a chartref Caffi’r Cowt! Mae mynediad am ddim felly beth am alw heibio a chael gwybod mwy am hanes diddorol Wrecsam? Mae dwy arddangosfa pêl-droed ar hyn o bryd: Chwedlau’r Crysau: Crys wrth Grys – Hanes Pêl-droed Cymruac Up The Town – Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Murlun Yma O Hyd – LL13 8LW

Murlun Croeso i Wrecsam – LL11 2HY

Os ydych yma am ychydig o ddyddiau neu’n bwriadu dod yn ôl i Wrecsam, ewch ar ychydig o’n hoff wefannau i gael ysbrydoliaeth: 

www.northeastwales.wales/cymru  

www.thisiswrexham.co.uk 

Meddygol

Adran Ddamweiniau ac Argyfwng Ysbyty Maelor – LL13 7TD

Rhif gwasanaethau brys – 112 (neu 999)

Bydd 112 yn gweithio i unrhyw ffôn

101 Rhif yr heddlu (dim argyfwng)

111 Rhif dim argyfwng i’r GIG, os oes gennych broblem feddygol sydd ddim yn argyfwng ac nad ydych yn sicr beth i’w wneud).

Cymraeg Defnyddiol

Yn ystod eich ymweliad yn Wrecsam, rydych yn debygol o glywed nifer o ieithoedd. Cymraeg a Saesneg yw iaith swyddogol Cymru. Mae’r mwyafrif o bobl yn deall Saesneg, ond rydym yn hoffi annog pawb i ddysgu a siarad ychydig o Gymraeg. Dyma ychydig o eiriau/ ymadroddion Cymraeg:

“Bore da” – “Good Morning”

“Diolch” –“Thank you”

“Gwych” – “Excellent”

“Ga’i ddau gwrw” – “Can I have 2 beers”

“Dwi’n Caru Wrecsam” – “I love Wrexham”

“Nos da” – “Good night”

 

Arian – Rydym yn defnyddio’r £ sterling, fodd bynnag mae’r mwyafrif o lefydd yn derbyn taliadau cerdyn yn ogystal ag arian parod.

Dyma rai o lefydd yng Nghanol Dinas Wrecsam lle allwch gyfnewid arian: 

Eurochange – Dôl yr Eryrod – Ll13 8DG

Cyfnewid Arian Asda – LL13 8HL

Arian Teithio’r Swyddfa Bost -LL11 1BE

Sainsbury’s – LL11 2BA

Tesco – LL13 8HF

Dŵr tap – Mae’r dŵr tap yn ddiogel i’w yfed, i ddweud y gwir mae ansawdd ein dŵr yfed yn un o’r prif resymau bod gennym gymaint o fragdai yn Wrecsam!

Mae’r tywydd yn argoeli i fod yn wych ar gyfer y penwythnos, felly gobeithio y byddwch yn mwynhau eich ymweliad â Wrecsam!

Apollo  

18 Charles Street, Wrecsam 

Rhif ffôn: 01978 366100

 

Atax

14 Abbot Street, Wrecsam  

Rhif ffôn: 01978 262380

 

Cresta Cabs

16 Cilgant San Siôr, Wrecsam

Rhif ffôn: 01978 353500

 

Gold Star  

2 Brook Street, Wrecsam

Rhif ffôn: 01978 353333

 

J.J. Cars  

5A Abbot Street, Wrecsam  

Rhif ffôn: 01978 351234

 

Regal Taxis  

15a King Street, Wrecsam

Rhif ffôn: 01978 362888

 

Town Cars

Gorsaf Reilffordd Gyffredinol Wrecsam

Rhif ffôn: 01978 313131

 

Wrexham / Prestige

Yale  House, 46 Brook Street, Wrecsam

Rhif ffôn: 01978 357777