Pencampwr LEGOMASTER Lego Channel 4 yn dod i Wrecsam!

Lego

A yw eich plentyn yn hoff o adeiladu gyda Lego?

Beth am eu hannog i ymarfer gyda meistr Lego!

Fe fydd Steve Guinness, enillydd rhaglen ‘Lego Masters’ Channel 4, yn ymweld â Llyfrgelloedd Gwersyllt a’r Waun yr hanner tymor hwn gan osod heriau adeiladu creadigol. Bydd hefyd yn rhoi pecyn bach i’ch plant gludo adref gyda nhw fel y gallent adeiladu llyfr a phensel wedi ei wneud o Lego.

Wedi gweld twll yn y ffordd? Gadewch i ni wybod.

Mae’r sesiynau hyn am ddim, ond mae’n rhaid i chi archebu eich lle ar yr amseroedd a lleoliadau canlynol:

Dydd Iau, 1 Mehefin
Llyfrgell Gwersyllt
4+ oed
9.30am, 11am, 1pm a 2.30pm
Mae’n rhaid archebu lle – ffoniwch 01978 722890

Dydd Gwener, 2 Mehefin
Llyfrgell y Waun
4+ oed
9.30am, 11am, 1pm a 2.30pm
Mae’n rhaid archebu lle – ffoniwch 01691 772344

Mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim gan eu bod yn cael eu hariannu’n llawn gan Ddysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru.

Gallwch ddarganfod mwy am Steve Guinness ar ei wefan, ‘The Brick Consultant’ – Comisiynau LEGO, Gweithdai a Hyfforddiant

Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/Pothole_report”] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]