Fel rhan o wythnos safonau masnach roedd ein swyddogion yn dosbarthu taflenni ac yn cynnig cyngor i drigolion ar fasnachwyr twyllodrus, a sut i ddod o hyd i fasnachwyr sydd ag enw da.
Thema gyffredin ymysgu trigolion oedd eu bod yn ei chael yn anodd dod o hyd i fasnachwyr da, a dywedodd dau eu bod wedi cael profiad o fasnachwyr twyllodrus yn flaenorol.
Mae cyngor ar ddelio gyda masnachwyr twyllodrus, a sut i ddod o hyd i fasnachwyr sydd ag enw da trwy ein cynllun house-proud yma.
Mae mwy o gyngor ar fasnachwyr ar wefan cyngor ar bopeth:
Os oes gan drigolion gŵyn, cysylltwch â Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu 0808 223 1144 (Cymraeg). Mae Adrannau Safonau Masnach yn cael hysbysiadau am gwynion gan Gyngor am Bopeth, sy’n ein helpu ni i dargedu busnesau twyllodrus.
Mae mwy o fanylion ar Safonau Masnach ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ar gael yma.