Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Camdriniaeth Ddomestig – Peidiwch â dioddef mewn distawrwydd – mae cymorth wrth law
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Camdriniaeth Ddomestig – Peidiwch â dioddef mewn distawrwydd – mae cymorth wrth law
ArallY cyngor

Camdriniaeth Ddomestig – Peidiwch â dioddef mewn distawrwydd – mae cymorth wrth law

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 8, 2020 3:14 pm
Rhannu
Darllen 8 funud
Domestic abuse
RHANNU

Rydym ni’n cefnogi Heddlu Gogledd Cymru drwy hyrwyddo eu neges bwysig eu bod dal wrth law i helpu dioddefwyr o gamdriniaeth ddomestig ac annog dioddefwyr i beidio â dioddef mewn distawrwydd.

Cynnwys
  • Cefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig
  • Cyngor i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig

Maent yn rhybuddio hefyd y byddant yn delio’n gadarn â chyflawnwyr hyd yn oed yng nghanol cyfyngiadau symud y Coronafeirws.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Gan fod dioddefwyr a chamdrinwyr yn debyg o fod gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod anodd yma, mae’n debygol y bydd y niferoedd sydd yn riportio trais domestig yn gostwng oherwydd nad oes ganddynt gyfle i riportio achosion.

Fel rhan o ymdrech barhaus i roi sicrwydd i ddioddefwyr, ac atgoffa camdrinwyr bod Heddlu Gogledd Cymru yn dal i ddelio â’r drosedd hon, maent yn dosbarthu cardiau a thaflenni mewn archfarchnadoedd a banciau bwyd er mwyn iddynt gael eu cynnwys mewn archebion ar-lein ac archebion clicio a chasglu.  Os allwch chi gymryd rhan a helpu dioddefwyr gael y neges bwysig hon, cysylltwch â’ch tîm plismona cymdogaeth lleol.

Cefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig

Mae’r Prif Weithredwr, Ian Bancroft ac Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard yn cytuno fod y gwaith hanfodol yma’n bwysig iawn yn enwedig yn ystod cyfnod o fod gartref gyda’n gilydd: “Fe hoffem ddiolch i’n cydweithwyr yn Heddlu Gogledd Cymru sydd yn tynnu sylw at  y gefnogaeth barhaus sydd ar gael i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig. Cysylltwch a pheidiwch â dioddef mewn distawrwydd. Mae help wrth law”.

Bydd Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn dosbarthu taflenni ac yn annog unrhyw un i ddod ymlaen os ydynt yn gwybod am rywun sy’n cael eu cam-drin neu os ydynt yn cael eu cam-drin eu hunain.

Cyngor i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig

  • Nid oes byth esgus dros gamdriniaeth ddomestig o unrhyw fath, boed yn drais neu’n ymddygiad sy’n rheoli neu’n ymddygiad bygythiol.
  • Peidiwch â dioddef mewn distawrwydd. Peidiwch â gwrando ar gyngor sy’n dweud na fydd yr heddlu yn gallu helpu neu bod yn rhy brysur i helpu. Mae swyddogion yno i chi, fel y maent wedi bod erioed.
  • Os bydd dioddefwyr mewn argyfwng, gallant ddefnyddio “Ateb Tawel”. Wrth ffonio 999 gallant wasgu 55, gwrando ar gwestiynau’r triniwr galwadau. Dylech ymateb trwy dagu neu dapio’r ffôn os allwch chi. Os cewch eich annog, gwasgwch 555 i adael i’r triniwr galwadau 999 wybod ei fod yn argyfwng gwirioneddol a byddwch yn cael siarad â’r heddlu.

Meddai PC Mike Taggart, Swyddog Strategol Cam-drin Domestig: “Mae hon yn adeg anodd a dirdynnol i bawb, yn enwedig i ddioddefwyr cam-drin domestig, sy’n cael eu gorfodi i dreulio mwy o amser gyda’u camdrinwyr.”

“Nid oes byth esgus dros gam-drin domestig o unrhyw fath; boed yn drais neu’n ymddygiad sy’n rheoli, yn gorfodi neu’n bygwth. ”

“Mae ein neges i ddioddefwyr yn glir. Peidiwch â dioddef yn dawel. Rydym yma i chi a bydd ein swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn eich cefnogi drwy’r amser ac yn delio’n gadarn â throseddwyr. Os ydych wedi clywed na fydd yr heddlu’n gallu, neu eu bod yn rhy brysur i’ch cefnogi, nid yw hyn yn wir, rydym yma i chi fel yr ydym wedi bod erioed. ”

“Mae ein neges i’r camdrinwyr hefyd yn glir. Ni fyddwn yn goddef cam-drin domestig a byddwn yn cymryd camau priodol – rydym yn dal i weithredu yn ôl yr arfer, byddwn yn ymateb i alwadau o gam-drin domestig a byddwn yn dal i fynd i mewn i’ch eiddo os bydd angen. Ni fydd Covid-19 yn ein hatal rhag amddiffyn dioddefwyr cam-drin domestig. ”

“Isod, ceir linc i’n gwefan a rhestr o asiantaethau sy’n cynnig cymorth a chyngor a manylion am fannau eraill lle mae cymorth ar gael.”

https://www.north-wales.police.uk/advice-and-support/stay-safe/domestic-abuse

Hourglass UK Helpline: 080 8808 8141 (freephone) Website: www.wearehourglass.org

Cyngor Henoed Cymru –   Gwybodaeth gyfrinachol a chyngor am ddim ar yr holl faterion sy’n cael effaith ar bobl dros 50 oed yng Nghymru.

Ffôn: 08000 223 444 E-bost: advice@agecymru.org.uk.

Llinell gymorth Alzheimer’s Society National Dementia: 0300 222 1122 Gwefan: www.alzheimers.org.uk

Care & Repair Cymru – Mae Care & Repair Cymru yn gorff elusennol cenedlaethol sy’n ceisio sicrhau bod pobl hŷn hefo cartrefi sy’n ddiogel ac yn addas i’w anghenion. Maent yn gallu bod o gymorth i bobl sy’n berchen ar eu cartrefi neu’n byw mewn tŷ maen nhw’n ei rentio. Mae yna rwydwaith o asiantaethau Care & Repair Cymru ar draws Cymru. Galwch eich asiantaeth leol ar: 0300 111 3333

Gwefan: www.careandrepair.org.uk

Cyngor Ar Bopeth (CABs)

Rhwydwaith genedlaethol o ganolfannau sy’n cynnig cyngor am ddim sy’n gyfrinachol ac yn annibynnol, wyneb i wyneb neu dros y ffôn.

Ffôn: 03444 77 20 20

Gallwch gael manylion o’ch CAB agosaf yn: www.citizensadvice.org.uk

Byw Heb Ofn

Llinell gymorth am ddim sy’n cynnig cyngor a chymorth i’r rhai yr effeithir arnynt gan drais yn erbyn merched, cam-drin domestig, neu drais rhywiol yn erbyn dynion a merched. Ffôn: 0808 8010 800 (llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac ni fydd yr alwad yn ymddangos ar eich bil) Gwefan: https://livefearfree.gov.wales/

Mae yna hefyd opsiwn i sgwrsio’n fyw ar y wefan os yw hyn yn fwy diogel i chi.

Men’s Advice Line

Llinell gymorth gyfrinachol ar gyfer dynion sy’n dioddef cam-drin a thrais domestig.

Ffôn: 0808 801 0327 Gwefan: www.mensadviceline.org.uk

Protect

Mae Protect (a elwid gynt yn Public Concern at Work) yn elusen ‘ chwythu’r chwiban ‘ annibynnol. Eu nod yw diogelu cymdeithas drwy annog pobl i chwythu’r chwiban am gamweddau difrifol yn y gweithle.

Llinell Gymorth: 020 3117 2520  Gwefan: www.pcaw.org.uk

Samariaid

Mae gwasanaeth y Samariaid yn darparu cymorth emosiynol i bobl sy’n teimlo trallod neu anobaith, gan gynnwys y rhai a all arwain at hunanladdiad.

Llinell gymorth gyfrinachol y Samariaid: 116 123

Pryderu am eich ymddygiad eich hun neu rywun arall?

Os ydych chi-neu rywun rydych yn ei adnabod – yn cam-drin neu’n dreisgar tuag at bartner neu aelod o’r teulu, gallwch gael cymorth a chefnogaeth gyfrinachol drwy ffonio 0808 802 4040 neu e-bostio info@respectphoneline.org.uk.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol bin collections Dim newid i gasgliadau bin dros gyfnod y Pasg
Erthygl nesaf 3D printer Ysgolion Wrecsam yn cynhyrchu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) i helpu â’r frwydr yn erbyn Covid-19

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English