Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dros 66? Gwiriwch a allech gael hwb i’ch incwm trwy Gredyd Pensiwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Arall
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Fideo Pobl a lle
Be Mighty Recycle Top Banana
Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Parking sign
Wrecsam v Chelsea – dydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Dros 66? Gwiriwch a allech gael hwb i’ch incwm trwy Gredyd Pensiwn
ArallPobl a lle

Dros 66? Gwiriwch a allech gael hwb i’ch incwm trwy Gredyd Pensiwn

Diweddarwyd diwethaf: 2025/11/20 at 3:21 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Older person leaning on a counter writing in a notebook, with a smart meter display on the left
Woman writing at home
RHANNU

Os ydych chi’n 66 oed neu’n hŷn gydag incwm cyfyngedig, yna gallech chi fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn. Byddai hyn yn rhoi arian ychwanegol i chi bob wythnos. Bob blwyddyn mae yna aelwydydd cymwys sy’n colli allan, felly mae’n werth gwirio a allwch chi ei hawlio.

Cynnwys
Beth yw Credyd Pensiwn?Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n colli allanBeth arall y gallaf ei gael os byddaf yn hawlio Credyd Pensiwn?Pryd y galla i ymgeisio?Sut ydw i’n gwneud cais?Cam 1Cam 2Cam 3

Os ydych chi’n adnabod rhywun arall a allai fod yn gymwys – rhowch wybod iddyn nhw!

Beth yw Credyd Pensiwn?

Budd-dal sy’n seiliedig ar brawf modd i bobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac sydd ar incwm isel. Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at eich incwm i gyrraedd lefel gofynnol wythnosol.

Mae Credyd Pensiwn ar wahân i’ch Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch gael Credyd Pensiwn hyd yn oed os oes gennych incwm arall, cynilion neu fod yn berchen ar eich cartref eich hun.

Mae Credyd Pensiwn yn werth, ar gyfartaledd, £3,900 y flwyddyn.

Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n colli allan

Hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl y byddech chi’n gymwys, mae’n werth gwirio oherwydd:

  • Gallwch hawlio hyd yn oed os ydych chi’n berchen ar eich cartref eich hun (ac efallai y byddwch chi hyd yn oed yn gymwys i gael help gyda’r llog ar eich morgais neu’r ffioedd gwasanaeth)
  • Efallai y gallwch gael Credyd Pensiwn ychwanegol os ydych chi’n gofalu am rywun
  • Efallai y gallwch gael Credyd Pensiwn ychwanegol os oes gennych anabledd – ac nid yw arian o fudd-daliadau anabledd fel PIP neu Lwfans Gweini yn cyfrif tuag at eich incwm
  • Gallwch hawlio Credyd Pensiwn hyd yn oed os oes gennych gynilion – er y gallai’r swm a gewch fod yn is os oes gennych fwy na £10,000

Defnyddiwch y gyfrifiannell cyflym ar-lein i wirio cymhwysedd a faint y gallech ei gael.

Fel arall, gallwch hefyd ffonio ein Tîm Hawliau Lles a fydd yn gallu cyfrifo eich hawl i Gredyd Pensiwn yn gyflym ac yn hawdd (yn ogystal â’ch hawl i’r Budd-dal Tai a Gostyngiad yn y Dreth Gyngor). Gallant hefyd drafod unrhyw fudd-daliadau anabledd.

Beth arall y gallaf ei gael os byddaf yn hawlio Credyd Pensiwn?

Os cewch Gredyd Pensiwn gallwch hefyd gael help arall, fel:

  • Help gyda chostau gwresogi drwy’r Cynllun Gostyngiad
    Cartrefi Cynnes a Thâl Tywydd Oer
  • Budd-dal tai os ydych yn rhentu’r eiddo rydych yn byw ynddo
  • Cymorth ar gyfer llog morgais os ydych yn berchen ar yr eiddo rydych chi’n byw ynddo
  • Gostyngiad yn y Dreth Gyngor
  • Trwydded deledu am ddim os ydych yn 75 oed neu’n hŷn
  • Help gyda thriniaeth ddeintyddol y GIG, sbectol a chostau trafnidiaeth ar gyfer apwyntiadau ysbyty, os ydych chi’n cael math penodol o Gredyd Pensiwn
  • Gostyngiad ar y gwasanaeth ailgyfeirio Post Brenhinol os ydych yn symud tŷ

Pryd y galla i ymgeisio?

Gallwch wneud eich cais hyd at 4 mis cyn i chi gyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch hefyd ôl-ddyddio hawliad am Gredyd Pensiwn am hyd at dri mis.

Sut ydw i’n gwneud cais?

Cam 1

Sicrhewch bod y wybodaeth ganlynol wrth law:
⦁ Rhif Yswiriant Gwladol
⦁ Gwybodaeth am unrhyw incwm, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych
⦁ Manylion banc

Cam 2

Ewch i gov.uk/credyd-pensiwn i wneud cais ar-lein.

Fel arall, gallwch ffonio llinell gais Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234.

Cam 3

Fe’ch hysbysir drwy’r post pan fydd eich cais wedi’i asesu.


Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Cartrefi a busnesau – grantiau ar gyfer boeler newydd

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam2029 team with Cllr Mark Pritchard and Cllr Nigel Williams in front of the Wrexham Christmas tree 2025 Wrecsam2029 yn noddi coeden Nadolig eleni yn Sgwâr y Frenhines
Erthygl nesaf Wrexham County Borough Council Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth o Dwyll – rhowch wybod am dwyll a diogelu arian trethdalwyr

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam
Arall Mawrth 6, 2026
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle Mawrth 6, 2026
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Fideo Pobl a lle Mawrth 6, 2026
Be Mighty Recycle Top Banana
Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Mawrth 6, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections.
Arall

Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam

Mawrth 6, 2026
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle

Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus

Mawrth 6, 2026
Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
FideoPobl a lle

Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol

Mawrth 6, 2026
Be Mighty Recycle Top Banana
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!

Mawrth 6, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English