Yn defnyddio cyllid cynllun Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru bydd y dylunydd, Tim Denton, yn gweithio gydag aelodau o’r gymuned i weithgynhyrchu 90% o’r dodrefn sydd eu hangen ar gyfer datblygiad newydd Oriel Wrecsam a Marchnad y Bobl.
Bydd y ganolfan yn agor yn ystod gwanwyn 2018.
Bydd Tim yn defnyddio gweithdai amrywiol yn Wrecsam, gan gynnwys y gweithdai yn Caia Crafts ac Undegun ar Stryt y Rhaglaw.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf bydd Tim yn arwain gweithdai ar sgiliau megis turnio coed i greu coesau cadeiriau ar gyfer y ganolfan newydd. Y gobaith yw y bydd pobl yn gallu symud yn eu blaenau i greu eu dodrefn eu hunain yn y dyfodol.
Meddai Tim
“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael dechrau’r prosiect. Mae’r holl gyfranogwyr yn frwdfrydig iawn dros gymryd rhan a helpu i greu’r elfennau gwahanol sydd eu hangen ar gyfer dodrefn Oriel Wrecsam. Byddwn yn turnio coed, gwneud uniadau ac yn gosod nifer o eitemau gwahanol. Rydw i’n edrych ymlaen at weld sut y bydd pobl yn gadael eu hôl yn y gweithdai.”
Yn ogystal â dysgu sgiliau allweddol bydd y cyfranogwyr yn cyfrannu at etifeddiaeth prosiect Oriel Wrecsam a Marchnad y Bobl
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI