Injunction Bowers Road

Cafwyd Derek Lee Adamson yn euog yn Llys Ynadon Wrecsam yn ddiweddar ac fe gafodd ei garcharu, yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan Dîm Lles Anifeiliaid Wrecsam.

Clywodd y Llys bod dau lo wedi marw ac nad oedd rhai eraill yn cael digon o ofal o ganlyniad i’w esgeulustod.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Roedd y cyhuddiadau’n cynnwys:

  • Methu â gofalu am anifeiliaid fferm sâl neu rai wedi’u hanafu
  • Methu â gwahanu anifeiliaid sâl neu wedi’u hanafu
  • Methu â bwydo deiet iawn a rhoi digon o ddŵr i anifeiliaid
  • Methu â glanhau llety a chyfarpar ar gyfer anifeiliaid
  • Methu â sicrhau bod y tystysgrifau cywir yn eu lle

Cafodd Mr Adamson ei garcharu am 48 wythnos, ei orfodi i dalu costau a gordal dioddefwyr a’i wahardd rhag cadw anifeiliaid am 20 mlynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Mae hwn yn ganlyniad rhagorol i’r tîm ar ôl iddo fethu â gofalu am yr anifeiliaid oedd dan ei ofal ac achosi dioddefaint diangen.

“Mae lles anifeiliaid yn gyfrifoldeb enfawr ac mae’r ddedfryd o garchar yn dangos pa mor ddifrifol yw’r troseddau yn yr achos hwn.”

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH