Ym mis Mai, er mwyn codi arian ar gyfer Dynamic Wrecsam, wynebodd Shane Jones, Lee Jones, Mark Connolley a Lee Richards her anferth y tri chopa gan ddringo’r mynyddoedd uchaf yng Nghymru (Yr Wyddfa), Lloegr (Scafell Pike) a’r Alban (Ben Nevis) mewn 24 awr.
Mae Dynamic yn elusen leol sy’n darparu ystod o wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anableddau o’u canolfan yn Wrecsam. Maent yn gweithio gyda, ac yn cefnogi plant a phobl ifanc gydag ystod o anableddau o amhariadau corfforol, deallusol neu synhwyraidd, i salwch sy’n cyfyngu ar fywyd.
Yn ogystal â’r arian nawdd o £600 o gyfraniadau gan rai o staff a Chynghorwyr y Cyngor, codwyd £1,107 arall gan Dynamic trwy gynnal raffl gyda chrys Cymru wedi’i arwyddo, a gafodd ei gyfrannu gan Lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Steve Williams, gan roi cyfanswm o £1,707.
Cyflwynodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, y siec ar y cyd â Mark, a dywedodd: “Dyma gyflawniad anferth ac rwy’n siŵr y bydd Dynamic yn ei werthfawrogi’n fawr. Maent yn gwneud gwaith rhagorol ac yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr i bobl ifanc a’u teuluoedd yn yr ardal. Cyflawnodd Shane, Lee, Mark a Lee gamp a hanner yn cwblhau her y tri chopa”.
Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori.