Rydym yn gwahodd gweithwyr proffesiynol busnes i gymryd rhan mewn cynhadledd cinio busnes ysgogol ac ysbrydoledig.
Cynhelir y gynhadledd hon yng ngwesty Ramada Plaza yn Wrecsam ddydd Gwener 27 Medi, 2024 rhwng 9.45am a 2.30pm.
Mae’n ffurfio rhan o’n gwaith parhaus i greu amodau ar gyfer twf busnes lleol ac i gefnogi datblygiad parhaus economi lleol mwy ffyniannus, arloesol a chynhyrchiol.
Beth fydd Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam 2024 yn ei gynnwys?
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn (a gefnogir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU) yn cynnwys cinio, yn ogystal â:
- Croeso swyddogol gan Brif Weithredwr Cyngor Wrecsam; Ian Bancroft
- Prif siaradwr; cyn bennaeth brand byd-eang a datblygu busnes yn LEGO
- Cyflwyniadau gan bedwar o brif fusnesau lleol
- Cyfle i ddysgu mwy am Gynghrair Arweinyddiaeth Wrecsam wrth lansio’r cynllun yn gyhoeddus.
- Gostyngiadau, cymhellion a gwobrau
Bydd hefyd yn gyfle gwych i:
- Rwydweithio
- Codi proffil eich busnes
- Cwrdd â nifer o ddarparwyr cefnogi busnes
Meddai Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, Busnes a Thwristiaeth Cyngor Wrecsam: “Mae hwn gyfle na ddylech ei golli, a byddwn yn annog busnesau lleol i archebu eu lle. Bydd y gynhadledd yn cynnig cyfle ardderchog i glywed gan ddetholiad o arweinwyr busnesau lleol uchel eu parch, yn ogystal â chyflwyniad diddorol, gwerthfawr ac ysgogol gan y siaradwr busnes rhyngwladol, Christian Majgaard. Bydd y busnesau a fydd yn mynychu’r gynhadledd yn siŵr o gael eu hysbrydoli gan syniadau y gallent eu defnyddio i helpu eu rhagolygon twf a chysylltiadau newydd.”
Rhagor o wybodaeth a chymryd rhan
Mae archebu lle’n hanfodol. Am fwy o wybodaeth ac i ddod o hyd i’r ddolen gofrestru ewch i Digwyddiad: Dyrchafu eich Busnes yn Wrecsam 2024.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Masnachu am ddim ym Marchnad Wrecsam ar ddydd Llun yn ymestyn i 31 Rhagfyr!