Mae arwydd ffordd ar goll. Nid dim ond unrhyw arwydd…mae’n arwydd rhestredig Gradd II. Enghraifft anghyffredin o arwydd haearn bwrw lleol sydd wedi goroesi ers y 19eg Ganrif i fod yn benodol. A hoffem ni ei gael yn ôl.
Cafodd ei ddwyn yn ddiweddar o Ffordd Hafod ac mae’n nodi cilffordd sy’n rhedeg o Rostyllen (heibio i Lofa’r Bers) i Middle Sontley.
Mae ganddo dri bys pendant yn nodi’r cyfarwyddiadau i Riwabon, Rhostyllen a Wrecsam, a dim ond y llynedd y cafodd ei drwsio a’i ail-addurno.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Mae’r heddlu wedi cael gwybod am y digwyddiad, ond byddai unrhyw gymorth y gallech ei roi yn cael ei werthfawrogi’n fawr.
Fyddwn ni ddim yn gofyn unrhyw gwestiynau – dim ond am ei gael yn ôl ydyn ni. Mae’n rhan o dreftadaeth Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a hoffem ni ei weld yn ôl yn ei gartref.
Os ydych chi’n gwybod lle mae o, ffoniwch 01978 298760.
FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL