Yr wythnos yma, mae hi’n Wythnos Genedlaethol y Rhai sy’n Gadael Gofal, sy’n wythnos i dynnu sylw at anghenion y rhai sy’n gadael gofal, a’r thema eleni ydi uchelgeisiau at y dyfodol.
I nodi Wythnos Genedlaethol y Rhai sy’n Gadael Gofal, mae Cyngor Wrecsam yn adnewyddu ei ymrwymiad i wneud pob dim o fewn ei allu i gefnogi plant sy’n derbyn gofal sy’n gadael gofal wrth iddynt droi’n 18 a dod yn annibynnol trwy ddatblygu addewid lleol i rai sy’n gadael gofal.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Dwedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: “Rydyn ni eisiau’r gorau i’r bobl ifanc sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal. Rydyn ni’n gwybod bod symud o fod yn blentyn dan ofal i adael gofal yn adeg unigryw ac allweddol ym mywydau pobl ifanc ac fel Cyngor, ein cyfrifoldeb ni ydi sicrhau bod y cymorth mae cymaint ohonom ni’n ei gymryd yn ganiataol ar gael iddyn nhw.
“Fel rhiant corfforaethol, mae gennym ni’r un uchelgeisiau i’r rhai sy’n gadael gofal ag y byddai gennym i’n plant ein hunain. Rydyn ni yma i wrando a chynghori a chefnogi pobl ifanc fel eu bod nhw’n gallu cyflawni cymaint â phosib’ mewn bywyd.”
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD