Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gall diffodd yr injan fod yn beth da…un newid bach syml i leihau llygredd aer
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gall diffodd yr injan fod yn beth da…un newid bach syml i leihau llygredd aer
Arall

Gall diffodd yr injan fod yn beth da…un newid bach syml i leihau llygredd aer

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 29, 2019 11:52 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Car E
RHANNU

Mae’n debyg eich bod wedi clywed ein bod wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd yn ddiweddar. Fel rhan o’r gwaith ar ddatblygu ein cynllun datgarboneiddio, rydym yn ystyried sut y gallwn ni leihau llygredd aer yn Wrecsam.

Un o’r problemau all effeithio ar ansawdd yr aer yw gadael injan y car yn rhedeg neu’n troi’n segur pan fyddwn ni wedi parcio neu’n aros am rywun.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Os ydych chi am fod yn aros yn llonydd am 60 eiliad neu fwy, byddai diffodd injan eich car ac yna’i hailgychwyn pan fyddwch chi’n barod i adael yn achosi llai o lygredd. Dyma gam bach syml tuag at wella ansawdd aer yn Wrecsam.

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn ystyried ffyrdd o wella ansawdd yr aer a lleihau allyriadau, ac un newid y gallwn ni i gyd ei wneud yw diffodd injan y car pan fyddwn ni’n aros.

“Mae’n hawdd gan bobl adael yr injan yn troi os mai dim ond aros am gyfnod byr yn rhywle maen nhw, ond mae hyn yn golygu bod allyriadau diangen a niweidiol yn cael eu gollwng i’n hamgylchedd. Yn awr, yn fwy nag erioed, dyma’r math o beth y mae angen i ni roi’r gorau i’w wneud er mwyn sicrhau Wrecsam gwell a gwyrddach.”

Dangosodd strategaeth aer glân 2019 Defra bod yna gysylltiad rhwng llygredd aer a dros 30,000 o farwolaethau y flwyddyn drwy’r wlad, a bod plant yn dioddef problemau iechyd fydd ganddyn nhw ar hyd eu hoes oherwydd ansawdd aer gwael.

Mae pobl yn aml yn gadael i injan y car droi’n segur wrth groesfannau (wrth aros i drenau basio), y tu allan i ysgolion, y tu allan i archfarchnadoedd ac mewn ardaloedd preswyl. Bod yn ymwybodol o’r ffaith ein bod yn gwneud hyn yw’r man cychwyn ar gyfer rhoi’r gorau iddi.

“Rydym ni i gyd yn gwthio i’r un cyfeiriad”

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae trigolion wedi bod yn cynnig awgrymiadau i ni am welliannau y gallwn ni fel cyngor eu gwneud, ac rydym wedi croesawu hyn.

Mae’r Cynghorydd Bithell yn egluro: “Rydym wrthi’n datblygu ein cynllun gweithredu datgarboneiddio ac yn falch bod trigolion yn codi materion lle gallem ni fod yn gwneud pethau’n well. Dydi hyn yn costio dim, ond mae iddo fanteision go iawn yn y tymor hir. Mae’n dangos eu bod yn cytuno gyda’r hyn rydym ni’n ceisio ei wneud a’n bod ni i gyd yn gwthio i’r un cyfeiriad.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Trading Standards assorted Tools Scam Safonau Masnach yn rhybuddio am sgâm minio offer
Erthygl nesaf Ein hymrwymiad i rai sy’n gadael gofal Ein hymrwymiad i rai sy’n gadael gofal

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English