Ydych chi wedi bod yn chwilio am lun buddugol o amgylch Wrecsam yn y gobaith y byddwch yn cipio’r wobr o £50?
Mae cystadleuaeth ffotograffiaeth Europe Direct yn ffordd wych o ddarganfod – neu atgoffa eich hun – o’r dreftadaeth anhygoel sy’n llenwi ein bwrdeistref sirol. Ac mae’n ffordd wych o ddangos i gweddill Ewrop sut beth yw treftadaeth Prydeinig.
Felly, efallai eich bod eisoes yn gwybod am y dreftadaeth wych sydd gennym yn y DU, ond beth am weddill Ewrop? Dyma rai ffeithiau…!
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
- • Mae dros hanner Safleoedd Treftadaeth y Byd yn Ewrop. Mae 453 o safleoedd wedi eu cofrestru ar restr UNESCO
• Mae chwech o amgueddfeydd mwyaf poblogaidd y byd yn Ewrop – bu cyfanswm o 35 miliwn o ymwelwyr yn 2016
• Mae chwarter rhestr UNESCO o Dreftadaeth Ddiwylliannol Anghyffwrdd Dynoliaeth yn yr UE
• Yn Ewrop mae 31 llwybr diwylliannol ardystiedig, sy’n croesi dros 50 gwlad
• Mae gan Ewrop blatfform digidol ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol o’r enw Europana. Yno, gallwch weld mwy na 54 miliwn o eitemau o dros 3,700 o sefydliadau diwylliannol Ewropeaidd
• Mae safleoedd Natura 2000 yn ardaloedd gwarchodedig ac yn cyfrif am 18% o dir yr UE a 6% o diriogaeth forol.
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, uwchlwythwch eich cais ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r rhain:
Twitter @EuropeDirectWxm
Facebook Facebook.com/europedirectwrexham
Instagram @europedirectwxm
E-bost europedirect@wrexham.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw 2 Medi 2018.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION