Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ein trychineb waethaf…Wrecsam yn cofio trychineb pwll glo Gresffordd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ein trychineb waethaf…Wrecsam yn cofio trychineb pwll glo Gresffordd
ArallPobl a lle

Ein trychineb waethaf…Wrecsam yn cofio trychineb pwll glo Gresffordd

Diweddarwyd diwethaf: Medi 17, 2019 11:40 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Gresford Memorial Disaster
Gresford Colliery disaster Memorial pit head
RHANNU

Am 11 o’r gloch fore Sul, Medi 22 wrth Gofeb Olwyn y Glowyr, Pandy, cynhelir y gwasanaeth blynyddol er cof am drasiedi waethaf Wrecsam, sef trychineb Pwll Glo Gresffordd.

Cynnwys
  • Dychmygwch…
  • ‘Yn union fel uffern’
  • Y canlyniadau
  • Cofio, 85 mlynedd yn ddiweddarach…

Fe deimlodd pawb yn Wrecsam effaith drom y drychineb, gan y bu farw rhywun o bron pob pentref yn y fwrdeistref sirol.

Dychmygwch…

Mae’n nos Wener, 21 Medi, 1934. Mae 266 o ddynion yn mynd i lawr i adran Dennis pwll glo Gresffordd er mwyn cychwyn eu shifft. Mae’n brysurach nac arfer gan bod llawer ohonynt yn ‘dyblu fyny’ er mwyn bod yn rhydd i wylio gêm bêl-droed Wrecsam ar y prynhawn dydd Sadwrn. Yn anffodus, dim ond 6 ohonyn nhw fydd yn dychwelyd.

Am 2:08am fore Sadwrn (22 Medi), rhwygodd ffrwydriad drwy’r pwll glo, gan ladd nifer fawr o lowyr.

Mae Edward William, Cynorthwywr Injan yn Dennis ar y pryd yn cofio: “Daeth yn nes fel taran ac yna aeth pobman yn ddu. Allech chi ddim gweld unrhyw beth.”

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

‘Yn union fel uffern’

Anfonwyd dros 200 o weithwyr achub mewn ymdrech i achub y glowyr. Dim ond 11 corff a adferwyd – a thri o’r rheiny yn perthyn i’r tîm achub cyntaf. Dywedodd un o’r achubwyr bod y pwll glo ‘yn union fel uffern’.

Pan gyrhaeddodd y newyddion y dref, ymgasglodd torfeydd o amgylch y pwll – menywod a phlant yn aros am anwyliaid na fyddent byth yn dod adref.

Wedi 40 awr o waith caled daeth yn amlwg i’r achubwyr nad oedd neb ar ôl yn fyw i’w hachub, felly penderfynwyd cau’r siafftiau am 6pm ar y prynhawn Sul.

Y canlyniadau

Roedd trychineb Pwll Glo Gresffordd yn un o drychinebau gwaethaf Wrecsam… ond nid oes llawer o sylw wedi ei roi i ganlyniadau’r drychineb, a’r effaith a gafwyd ar deuluoedd a chydweithwyr y dioddefwyr. O ganlyniad i’r ffrwydriad, roedd 200 yn weddw, 800 heb dad a 1,600 yn ddi-waith.

Roedd hyn mewn cyfnod lle nad oedd yr un cyfleoedd gan fenywod ag oedd gan ddynion. Roedd colli gŵr yn golygu mwy na bod yn wraig weddw alarus…roedd yn golygu bod yn weddw gyda’r cyfrifoldeb o ddarparu ar ei chyfer ei hun a’i phlant heb unrhyw ffynhonnell incwm.

Bu’n rhaid i weddill y dynion a gyflogwyd yn y pwll glo edrych am waith arall – yn aml heb unrhyw lwc. Roedd y dyfodol i’w weld yn ddigalon iawn i Wrecsam; byddai rhai yn ei chael hi’n anodd goroesi hyd yn oed. Byddai’n chwe mis tan i’r pwll ail agor.

Bu’r drasiedi yn y newyddion cenedlaethol a derbyniodd gydnabyddiaeth gan y Brenin. Lledodd y gair am y teuluoedd oedd yn ei chael hi’n anodd a sefydlwyd cronfa gymorth er mwyn helpu’r rheiny oedd mewn angen. Codwyd mwy na £550,000, fodd bynnag ni ellid gwneud iawn am y bywydau a gollwyd.

Cofio, 85 mlynedd yn ddiweddarach…

Eleni mae hi’n 85 mlynedd ers i 266 o ddynion a bechgyn golli eu bywydau.

Cynhelir y gwasanaeth coffa blynyddol i nodi Trychineb Pwll Glo Gresffordd ddydd Sul, 22 Medi am 11am ger Cofeb Olwyn y Glowyr, Bluebell Lane, Pandy. Bydd y gwasanaeth yn fyr ac anffurfiol, ac mae croeso i bawb fynychu.

Hefyd os hoffech ddarganfod mwy am y digwyddiad trasig hwn, mae’n werth ymweld ag Amgueddfa Wrecsam.

Bydd Wrecsam bob amser yn cofio…

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Drysau tân yn achub bywydau Drysau tân yn achub bywydau
Erthygl nesaf Nottingham Knockers Fraud Cold Call Scam Adroddiadau am gnocwyr Nottingham yn ardal Wrecsam – Safonau Masnach

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English