Mae gan Gyngor Wrecsam gartrefi newydd sbon ger canol y dref a gallwch wneud cais amdanyn nhw rŵan.
Dechreuodd gwaith ar ddau floc o fflatiau un a dwy lofft yn Rivulet Road – menter ar y cyd rhwng Cyngor Wrecsam a Chymdeithas Tai Clwyd Alyn – y llynedd.
Disgwylir y bydd y gwaith adeiladu wedi ei gwblhau yn ddiweddarach yr haf hwn ac mae’r cyfnod gwneud ceisiadau yn awr ar agor.
Os ydych eisiau symud i leoliad ger canol y dref neu am gael eiddo mwy, efallai mai’r fflatiau hyn yw’r union beth yr ydych yn chwilio amdano.
Bydd y cartrefi newydd sbon ar gael am renti lefel cymdeithasol a byddant hefyd yn cadw biliau ynni’n isel diolch i’w maint a’u heffithlonrwydd ynni.
Mae’r cynllun cyfan wedi ei adeiladu i safonau ‘Cartrefi am Oes’ (Lifetime Homes) sy’n golygu eu bod nhw’n addas ar gyfer unrhyw un sydd angen defnyddio cadair olwyn neu ffrâm gerdded o dro i dro.
“Bydd galw mawr amdanyn nhw”
Meddai’r Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Mae’r cartrefi newydd yma yn Rivulet Road yn ychwanegiad gwych at y stoc tai sydd ar gael yn Wrecsam, ac o ystyried pa mor newydd ydyn nhw a’u lleoliad cyfleus ynghanol y dref, rwy’n sicr y bydd galw mawr amdanyn nhw.
“Hoffwn hefyd ddiolch i Glwyd Alyn am y gwaith maen nhw wedi’i wneud ar y datblygiad hwn – rhaid eu canmol yn fawr am safon yr adeiladau newydd.”
Mae gan Gyngor Wrecsam hefyd nifer o gartrefi dwy lofft ar gael ledled y fwrdeistref sirol.
Gall unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais am dŷ ffonio 01978 298993
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI