taxi

Mae llai o yrwyr na’r arfer ar gael yn ystod y cyfnod hwn meddai cwmnïau tacsis yn Wrecsam, a’u cyngor nhw yw gwneud yn siŵr eich bod yn archebu eich tacsi ymlaen llaw cyn yr adeg ydych chi eisiau gadael.

O ganlyniad i’r diffyg gyrwyr sydd ar gael mae rhai cwsmeriaid siomedig wedi gorfod canslo prydau bwyd ac apwyntiadau gan na allent gael tacsi mewn pryd.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Peidiwch â gadael i hyn ddigwydd i chi – dim gwahaniaeth beth yw eich trefniadau, os ydych chi’n bwriadu defnyddio tacsi, treuliwch ychydig amser yn ei archebu ymlaen llaw i wneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd pen eich taith mewn pryd.

Bydd angen i chi wisgo gorchudd wyneb hefyd mewn tacsi felly cofiwch roi un yn eich poced neu yn eich bag cyn i chi adael.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL