Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Erbyn hyn gallwch ein ffonio i dalu am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Erbyn hyn gallwch ein ffonio i dalu am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd
Y cyngor

Erbyn hyn gallwch ein ffonio i dalu am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 31, 2020 11:53 am
Rhannu
Darllen 4 funud
green bin
RHANNU

Erbyn hyn gallwch wneud taliad gyda cherdyn dros y ffôn os ydych eisiau parhau i gael gwasanaeth gwastraff gardd o 31 Awst. I wneud hyn, ffoniwch y ganolfan gyswllt ar 01978 298989.

Cynnwys
  • Os ydych eisoes wedi talu, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth
  • Nid wyf eisiau bin gwastraff gardd mwyach
  • Nid wyf eisiau talu ond hoffwn gadw fy min gwastraff gardd

Rydym yn gobeithio gallu derbyn taliadau ar-lein yn fuan. Byddwn yn gadael i chi wybod trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’r blog newyddion hwn pan fydd ar gael.

O ganlyniad i’r cyfnod clo, penderfynom barhau i wagio biniau gwastraff gardd o fis Ebrill gan y bu’n rhaid cau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn sgil y cyfyngiadau mewn perthynas â theithio diangen, ond bydd y casgliadau a delir amdanynt yn awr yn cychwyn ar ddydd Llun, 31 Awst.

Bydd y ffi yn aros yr un fath – £25 y flwyddyn fesul bin gwastraff gardd. Ni fydd bin(iau) gwastraff gardd yn cael eu gwagu os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 31 Awst.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Os ydych eisoes wedi talu, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth

Os ydych eisoes wedi talu am y gwasanaeth gwastraff gardd yn gynharach yn y flwyddyn nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth. Byddwch yn cael gwasanaeth llawn am 12 mis hyd 31 Awst, 2021.

Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol: “Ar ôl cadarnhau’r dyddiad cychwyn newydd o 31 Awst, rydym bellach yn gallu derbyn taliadau newydd gan unrhyw un sydd heb gofrestru ar gyfer y gwasanaeth. Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud hynny ffonio 01978 298989 i wneud taliad gyda cherdyn.

“Byddwn hefyd yn gallu derbyn taliadau ar-lein yn fuan a byddwn yn gadael i chi wybod pan fydd hyn ar gael. Rydym wedi llwyddo i gadw’r gost mor isel â phosib, £25 y flwyddyn fesul bin gwastraff gardd, sy’n llai na nifer o awdurdodau eraill yng Nghymru a Lloegr. Os ydych wedi talu am y gwasanaeth yn gynharach yn y flwyddyn byddwch yn cael gwasanaeth llawn am 12 mis yn awtomatig o’r dyddiad cychwyn newydd.”

Nid wyf eisiau bin gwastraff gardd mwyach

Os mai dyma’r achos byddwn yn dod i’w gasglu. Ewch ar-lein i FyNghyfrif a gallwch naill ai fewngofnodi neu gofrestru i ofyn i ni ei gasglu. Byddwn yn ei gasglu, ond ni fyddwn yn gallu gwneud hynny ar unwaith felly byddwch yn amyneddgar os gwelwch yn dda. Yn y dyfodol os ydych yn newid eich meddwl ac yn dymuno talu i gael gwagu eich bin gwyrdd bydd rhaid i chi brynu bin newydd os ydych eisoes wedi anfon eich bin yn ôl.

Nid wyf eisiau talu ond hoffwn gadw fy min gwastraff gardd

Mae hynny’n iawn. Gallwch ddal eich gafael arno ar gyfer y dyfodol ond ni fyddwn yn ei wagu. Os byddwch yn penderfynu talu am wagu eich bin gwyrdd yn y dyfodol ni fydd rhaid i chi dalu am fin gwyrdd newydd.

Gobeithiwn y byddwch yn parhau i gael gwasanaeth casglu gwastraff gardd gennym ni gan ein bod yn awyddus i weld cyfraddau ailgylchu Wrecsam yn parhau i gynyddu yn flynyddol, ond mae pethau’n anodd iawn, ac rydym yn deall os nad ydych yn dymuno talu am y gwasanaeth hwn.

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mobile Library Y wybodaeth ddiweddaraf: Gwasanaeth Llyfrgell Deithiol
Erthygl nesaf How we’re addressing concerns and improving our children’s services Sut rydyn ni’n mynd i’r afael â phryderon ac yn gwella ein gwasanaethau plant

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English